Ydych chi’n barod am y gaeaf?

winter

Ydych chi’n barod am y gaeaf?

gan Dave Bates, Rheolwr Datblygu Busnes, Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf

Paratoi eich fferm ar gyfer y gaeaf

Nawr bod hi’n nosi ynghynt a misoedd y gaeaf yn prysur agosáu, mae’n bryd i ffermwyr ar hyd a lled Cymru a gweddill y DU baratoi ar gyfer y misoedd llymach sydd o’n blaenau. Gydag amodau tywydd anrhagweladwy ar y ffordd, rydym am edrych ar ba gamau y gallwch eu cymryd i baratoi yn erbyn y mwyafrif o ddigwyddiadau posibl.

Cadw’r dŵr i lifo

Mae angen cyflenwad dibynadwy o ddŵr ar bob fferm, yn enwedig os ydych chi’n cadw da byw a cheffylau. Ac eto, pan fydd y tywydd yn disgyn o dan y rhew bwynt, mae eich pibellau mewn perygl o rewi a rhwystro’r cyflenwad hwnnw. Er mwyn atal hyn, ystyriwch osod cynhyrchion ynysu neu ddefnyddio pwmp dŵr i gadw’r dŵr i lifo. Gall dadmer pibell wedi’i rewi gymryd llawer mwy o amser chostus, yn hytrach na chymryd y camau ataliol hyn ymlaen llaw.

Os bydd dŵr yn diferu mewn ardaloedd sy’n cael eu defnyddio’n llai aml dros fisoedd y gaeaf, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod ble mae pob un o’r stopfalfiau.

Os ydych chi’n wynebu argyfwng, mae’n helpu i gael rhif ffôn plymwr dibynadwy wrth law a sicrhau bod gennych chi gynllun wrth gefn. Oes gennych chi fferm gyfagos a all helpu os yw’ch cyflenwad yn rhedeg yn sych? Efallai y gallwch gytuno i helpu’ch gilydd ymlaen llaw.

Cynnal a chadw peiriannau a cherbydau

Mae llawer o yswirwyr yn sylwi bod hawliadau yswiriant yn cynyddu’n sylweddol yn y gwanwyn, oherwydd difrod a achosir gan beiriannau fferm sydd ddim yn cael y sylw priodol dros y gaeaf. Gall hyn ddeillio o ddiffyg cynnal, cadw a glanhau cerbydau, gan arwain at danau, difrod tywydd a mwy.

Dyna pam ei bod yn bwysig eich bod yn cynnal a chadw cerbydau a’ch peiriannau’n iawn cyn i dymor y gaeaf ddechrau a sicrhau eu bod yn cael eu storio’n iawn er mwyn osgoi difrod tywydd. Os oes gennych unrhyw offer neu beiriannau fydd ddim yn cael eu defnyddio dros y cyfnod hwn, gwnewch yn siŵr eu bod o dan glo ac yn ddiogel, nid yn unig i’w cadw’n sych, ond hefyd i’w diogelu rhag lladron a fandaliaid.

Asesu eich adeiladau allanol

Mae hefyd yn syniad da edrych ar gyflwr eich adeiladau allanol i weld a ydyn nhw’n parhau i fod mewn cyflwr i wrthsefyll tywydd garw. Bydd cael cysgod diogel yn ei le yn sicrhau bod eich da byw a’ch offer yn parhau i gael eu gwarchod dros y misoedd oerach hyn.

Ystyriwch bethau fel toeon a sefydlogrwydd y tu mewn, yn ogystal â’r mathau o gloeon a mesurau diogelwch y byddwch chi’n eu defnyddio i’w diogelu. Os nad ydych chi eisoes yn rhan o gynllun gwylio cymunedol, nawr yw’r amser delfrydol i gymryd rhan i helpu i gadw troseddwyr bant

Cadw stoc ddigonol o fwyd a gwellt

Bydd angen i chi sicrhau bod y rhain yn cael eu cadw mewn man diogel, i ffwrdd o dywydd garw ac yn rhywle y gallwch gael mynediad atynt ar unwaith beth bynnag fo’r tywydd.

Sicrhewch fod eich yswiriant yn ddigonol

Mae’n bwysig sicrhau, pan fyddwch chi’n gweithredu mewn cyfnod o risg uwch, bod eich Yswiriant Fferm cyfredol yn parhau i fod yn gyfredol. Os ydych wedi gwneud unrhyw newidiadau i’ch gweithrediad yn ystod 2020, oherwydd argyfwng parhaol COVID-19 neu fel arall, mae’n ddigon posibl y bydd angen adolygu’r sefyllfa.

I siarad ag aelod o’r tîm am eich Yswiriant Fferm ac i sicrhau ei fod yn parhau i fodloni eich anghenion, peidiwch ag oedi cyn cysylltu heddiw. Cysylltwch â’ch Swyddog Gweithredu Cyfrif Undeb Cymru Amaethwyr lleol ar y rhifau isod neu ffoniwch 0344 800 3110 neu ewch i www.fuwinsurance.co.uk