Swydd Wag – Swyddog Cyfrif Yswiriant

Swydd Wag – Swyddog Cyfrif Yswiriant

Cydlynydd Cyfrif –  Cyflog cystadleuol £17,000

Rydym yn recriwtio

Swyddog Cyfrif Yswiriant yn swyddfa Aberystwyth (yn gweithio o adref dros dro oherwydd Covid-19).

Gwasanaethau Yswiriant FUW yw un o brif froceriaid yswiriant Cymru.

Trwy weithio’n agos gyda phanel o gwmnïau yswiriant amaethyddol a masnachol arbenigol, mae modd i ni dargedu prif gynnyrch y farchnad gan sicrhau gwerth yr arian i’n cwsmeriaid.

Rydym wedi meithrin enw da am gynnig gwasanaeth gwybodus a phroffesiynol i gwsmeriaid amaethyddol, cwmnïau bychain, masnachol a phersonol ar draws Cymru.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog ac o bosib â phrofiad o weithio mewn sefyllfaoedd o wasanaethau cwsmeriaid/yswiriant/gwasanaethau ariannol. Byddwch yn gyfrifol am gysylltu wyneb yn wyneb, ar lafar ac yn ysgrifenedig gyda chwsmeriaid presennol a newydd Gwasanaethau Yswiriant FUW. Mi fyddwch yn ymwneud a phrosesu ac ymdrin â gweithrediadau polisïau yswiriant yn ogystal â dyletswyddau swyddfa.

Pa un ai ydych chi’n berson sydd â phrofiad o yswiriant neu rywun sy’n chwilio am her newydd mewn maes newydd, rydym am glywed wrthych chi.

Am ragor o wybodaeth neu i ymgeisio am y swydd, a wnewch chi anfon eich CV gan nodi eich enw llawn a chyfeiriad at Karen Royles, Karen.royles@fuw.org.uk

FUW Insurance Services Ltd

PO Box 250

ABERYSTWYTH

SY23 9FJ

Dim asiantaethau nac ymgynghorwyr recriwtio

Mae Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf yn cael ei

Awdurdodi a’I reoli gan y ‘Financial Conduct Authority’.

Rhif Cofrestru 615251