Fel crefftwr, byddwch chi’n deall y risgiau unigryw sy’n dod gyda’ch crefft a’r effaith y gall unrhyw ymyrraeth gael ar eich busnes. Gallwn drefnu polisi wedi’i deilwra i gyd-fynd â’r risgiau sy’n benodol i’ch gwaith, gan sicrhau eich bod yn cydymffurfio’n gyfreithiol ac yn ddiogel pe bai rhywbeth yn mynd o’i le.
Gellir trefnu yswiriant ar gyfer:
Gall sicrhau’r lefel cywir o yswiriant ar gyfer cerbydau masnachol fod yn anodd ac yn cymryd llawer o amser, yn enwedig os oes gyda chi lawer o gerbydau i’w cynnwys. Gydag yswiriant arbenigol a drefnir gan Gwasanaethau Yswiriant FUW, gallwn eich helpu i yswirio’ch holl gerbydau masnachol mewn un polisi, gan arbed amser i chi a lleihau’r gost o bosib.
Gellir trefnu yswiriant ar gyfer:
Mae ffactorau amgylcheddol fel tanau a llifogydd yn aml yn effeithio’n sylweddol ar y sector coedwigaeth/garddwriaethol a gall hefyd fod yn destun i hawliadau atebolrwydd neu anghydfod proffesiynol. P’un a ydych chi’n berchen ar ganolfan arddio neu’n gweithio fel meddyg coed, gwerthwr blodau neu tirluniwr proffesiynol, bydd ein tîm yn trefnu polisi sy’n gweddu i natur eich busnes.
Gellir trefnu yswiriant ar gyfer:
Rydym yn deall y gall rhedeg sefydliad ar gyfer dibenion llety fod yn waith prysur iawn. Gall hyn ei gwneud hi’n anodd dod o hyd i’r amser i chwilio am bolisi yswiriant sy’n cyd-fynd yn llawn ag anghenion eich busnes. Gallwn drefnu ymweliad â’ch eiddo i ddadansoddi pa yswiriant fyddai’n addas i’ch busnes a dod o hyd i’r polisi cywir
Gellir trefnu yswiriant ar gyfer:
O fflyd o dacsis i fecanyddion, gallwn ni helpu i ddod o hyd i bolisi sy’n sicrhau bod eich busnes yn gweithredu, er gwaethaf unrhyw rwystrau annisgwyl ar hyd y ffordd. Gallwn drefnu yswiriant ar gyfer lleoliad eich busnes a’ch cerbydau, a all gael eu cynnwys yn yr un polisi.
Gellir trefnu yswiriant ar gyfer:
Os ydych chi’n rhentu eiddo prynu-i-osod, dim ots beth yw maint eich portffolio, gallwn drefnu polisi sy’n addas i’ch busnes. P’un a yw eich tŷ yn wag am gyfnod hir, rydych chi’n rhentu eiddo rhestredig neu os yw eich eiddo mewn ardal sydd â risg o lifogydd, gallwn sicrhau eich bod yn cael eich yswirio’n gywir.
Gellir trefnu yswiriant ar gyfer:
Rydym yn deall bod y byd manwerthu yn wynebu’r cyhoedd, felly, nid yn unig y byddwn yn sicrhau bod eich eiddo busnes a’r stoc yn ddiogel, ond hefyd yn sicrhau atebolrwydd os yw cwsmer yn cael anaf tra ar eich eiddo, neu’n mynd yn sâl o ganlyniad i’ch cynhyrchion, rydych chi’n cael eich diogelu’n llawn yn erbyn unrhyw effaith ariannol.
Gellir trefnu yswiriant ar gyfer:
Rydym yn ymroddedig i helpu busnesau bach a chanolig i ddod o hyd i yswiriant sy’n addas i natur eich busnes a bod chi ddim yn talu am rywbeth sydd ddim yn berthnasol i chi. Byddwn yn ystyried nifer y staff rydych chi’n eu cyflogi, maint a natur eich menter a nifer o ffactorau eraill er mwyn dod o hyd i bolisi sy’n cyd-fynd ag anghenion eich busnes.
Gellir trefnu yswiriant ar gyfer: