Mae sicrhau’r yswiriant cywir ar gyfer eich fferm yn hanfodol wrth frwydro yn erbyn troseddau gwledig

Daybreak over Welsh farm

Mae sicrhau’r yswiriant cywir ar gyfer eich fferm yn hanfodol wrth frwydro yn erbyn troseddau gwledig

gan Dave Bates, Rheolwr Datblygu Busnes, Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf

Er gwaethaf gorfod ymdopi a llu o heriau eraill a gyflwynwyd gan bandemig COVID-19, mae ffermwyr ledled Cymru a gweddill y DU wedi parhau i frwydro yn erbyn troseddau gwledig – gan ychwanegu pwysau ychwanegol at eu llwyth gwaith a’u sefyllfa ariannol sydd eisoes o dan straen.

Cost troseddau gwledig yn 2019/2020

Yn ôl yswirwyr, mae trosedd gwledig wedi costio £54.3m i’r DU yn 2019 ac er gwaethaf lladradau cyffredinol wedi lleihau yn 2020 oherwydd y coronafirws, mae troseddwyr yn parhau i dargedu’r rhai hynny sy’n gweithio yng nghefn gwlad. Pan oedd y cyfnod clo yn ei anterth rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf, bu cynnydd sylweddol mewn troseddau megis dwyn da byw, ochr yn ochr â digwyddiadau eraill nad oeddent yn gysylltiedig â dwyn gan gynnwys mwy o gŵn yn ymosod ar anifeiliaid fferm a thipio anghyfreithlon. Pryder mawr arall yw dwyn offer GPS tractor costus.

Gangiau trosedd trefnedig

Yn anffodus, nid yw’r bobl sy’n targedu ffermwyr yn droseddwyr rhan-amser manteisgar bob tro.  Mae’r troseddau hyn yn cael eu cyflawni fwyfwy gan gangiau trosedd trefnedig sy’n targedu tractorau drud, beiciau cwad a da byw. Yn 2019, costiodd dwyn cerbydau amaethyddol £9.3m i’r DU, dwyn cwad/ATV £3.1m a dwyn da byw £3m.

Diogelu eich fferm

Dyma rai pethau y dylech eu hystyried wrth ddiogelu adeiladau eich fferm, offer a da byw.

Diogelu eich eiddo

  • Ystyriwch ddiogelwch adeiladau allanol eich fferm a’ch tir gan gynnwys ffensys a gatiau diogelwch, gan gynnwys mynedfeydd yr iard
  • Sicrhewch eich bod yn storio allweddi yn ddiogel a’ch bod yn cloi offer a cherbydau pan nad ydynt yn cael eu defnyddio (lle bo hynny’n bosibl)
  • Defnyddiwch gloeon pwrpasol a dyfeisiau arbenigol i gloi offer ac eiddo
  • Storiwch GPS y tractor mewn man diogel

Ymunwch â chymuned ehangach

  • Chwiliwch am, ac ymunwch â grwpiau gwledig er mwyn cymryd rhan mewn sgyrsiau a fforymau i gael diweddariadau cyflym ar weithgaredd amheus
  • Siaradwch â’ch tîm heddlu troseddau gwledig a rhowch wybod iddynt am unrhyw weithgaredd amheus
  • Rhoi gwybod yn ddienw am droseddau gan ddefnyddio Crimestoppers ar 0800 555 111

Buddsoddi mewn technoleg well

  • Ystyriwch osod dyfeisiau olrhain anamlwg ar gerbydau
  • Defnyddiwch deledu cylch cyfyng a goleuadau synhwyrydd i atal a helpu i ddal troseddwyr
  •  Ystyriwch dechnolegau fel geo-ffensio a Tec-Tracer
  • Marciwch gerbydau gyda CESAR i atal troseddwyr

Sicrhau bod yr yswiriant cywir gyda chi

Mae cael yr yswiriant cywir ar gyfer eich fferm yn hanfodol ac mae cynnal adolygiadau rheolaidd o’ch yswiriant yr un mor bwysig. Hyd yn oed os oedd eich yswiriant yn ddigonol pan wnaethoch chi ei drefnu, efallai eich bod wedi ehangu rhannau o’ch fferm, wedi arallgyfeirio, buddsoddi mewn cerbydau newydd neu wneud newidiadau sylweddol o ganlyniad i coronafirws, a’i fod bellach ddim yn taro deuddeg.

Yn Gwasanaethau Yswiriant FUW, nid yn unig yr ydym yn arbenigo mewn dod o hyd i Yswiriant Fferm wedi’u teilwra ar gyfer busnesau gwledig, ond rydym hefyd yn sicrhau ein bod yn cynnal perthynas hirdymor gyda’n cleientiaid sy’n mynd y tu hwnt i ddod o hyd i’ch yswiriant yn unig.

Byddwn yn cynnal adolygiadau rheolaidd yn ôl yr angen a byddwn wrth law i ddarparu unrhyw gyngor a chefnogaeth sydd eu hangen arnoch. Os byddwch angen hawlio, byddwn yno i gefnogi ac ymladd ar eich rhan bob cam o’r ffordd.

I gael adolygiad heb rwymedigaeth o’ch yswiriant presennol neu i ddod o hyd i bolisi newydd, cysylltwch â ni ar 0344 800 3110 neu cysylltwch â’ch Swyddog Gweithredol Cyfrif Gwasanaethau Yswiriant FUW lleol.