Diweddariadau

Ydych chi’n profi anawsterau ariannol?

 

Os mai ‘ydw’ yw’r ateb, Cysylltwch â Ni nawr fel y gallwn weithio gyda chi i roi’r cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch. Mae cysylltu gyda ni yn gynnar, hyd yn oed os nad ydych wedi methu unrhyw daliadau eto, yn galluogi ni i’ch helpu yn y ffordd orau bosibl.
Gallai amrywiaeth o opsiynau fod ar gael i chi, gyda’r nod o gynnal lefel briodol o yswiriant sy’n bwysig i chi ac y gallwch ei fforddio. Mae enghreifftiau o’r opsiynau hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Adolygu eich gofynion a’ch anghenion
  • Addasu yswiriant, naill ai ar sail tymor byr neu hirdymor
  • Edrych ar gynhyrchion addas eraill ar y farchnad

Lle nad yw newidiadau i’ch yswiriant yn gweddu neu’n helpu eich sefyllfa ariannol a’ch bod yn talu am eich yswiriant mewn rhandaliadau, dylech gysylltu â’ch yswiriwr, neu ddarparwr cyllid yn uniongyrchol, oherwydd efallai y bydd cymorth ariannol pellach ar gael, a allai gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Cymorth wedi’i deilwra, sy’n briodol, gan ystyried eich amgylchiadau unigol
  • Saib dros dro ar daliadau
  • Gostyngiad dros dro mewn taliadau
  • Atal, lleihau, hepgor neu ganslo unrhyw log neu daliadau pellach
  • Diwygio’ch dyddiad ad-dalu, neu ledaenu taliadau’n wahanol
  • Cymorth i gael gafael ar arweiniad ariannol, neu gyngor am ddim ar ddyledion

 

Angen mwy o help?

 

Mae cymorth am ddim ac yn ddiduedd gydag arian ar gael ar wefan Money Helper, a gefnogir gan Lywodraeth y DU.  Mae cymorth ar gael hefyd i helpu gyda chostau byw cynyddol drwy wefan y Llywodraeth Help for Households.