Swydd Wag – Cyfarwyddwr Anweithredol

Swydd Wag – Cyfarwyddwr Anweithredol

Contract: Llawn amser

Cyflog: £24,643 i £26,260

Dyddiad Cau: 25 Awst 2025 ond cedwi’r yr hawl i gau’r swydd yn gynnar os ceir ymgeisydd addas.

Am fwy o wybodaeth: Cysylltwch â Marie Morgan trwy marie.morgan@fuw.org.uk

I wneud cais: Anfonwch eich CV a llythyr cais at marie.morgan@fuw.org.uk

 

Pwy ydym ni?

Undeb Amaethwyr Cymru yw llais ffermydd teuluol Cymru. Gweledigaeth Grŵp yr FUW yw “ffermydd teuluol ffyniannus, cynaliadwy yng Nghymru”. O lobïo’r llywodraeth ar ran miloedd o ffermwyr a darparu gwasanaethau iddynt yn lleol i gynnal busnes Brocer Yswiriant arbenigol amaethyddol mwyaf Cymru, mae ein 115 aelod staff yn gweithredu o 13 swyddfa ledled Cymru gan fynychu digwyddiadau Blynyddol megis sioeau amaethyddol, y Sioe Frenhinol a’r Eisteddfod Genedlaethol.

 

Y Cyfle:

Rydym yn chwilio am Weinyddwr Cyllid sy’n canolbwyntio ar fanylion i ymuno â’n Tîm Cyllid. Mae’r rôl allweddol hon yn cefnogi gweithrediadau ariannol y cwmni yn unol â deddfwriaeth y DU a rheoliadau’r FCA (Awdurdod Ymddygiad Ariannol), gyda ffocws penodol ar sicrhau taliadau cyflenwyr, trin arian cleientiaid, a chadw cofnodion ariannol cywir trwy’r system Acturis CRM.

 

Cyfrifoldebau Allweddol

  • Cofnodi a phrosesu anfonebau, taliadau, a derbynebau o fewn system Acturis

  • Cysoni trafodion banc rhwng Acturis a systemau bancio

  • Sicrhau bod cyfrifon yn cael eu talu’n brydlon o fewn telerau credyd y cytunwyd

    arnynt

  • Cysoni gwybodaeth a datganiadau cyllidol gan ddatrys anghysondebau

  • Monitro a rheoli taliadau misol a gwybodaeth ariannol dyddiol

  • Cynhyrchu adroddiadau data o Acturis at ddefnydd mewnol

  • Cefnogi cydymffurfiaeth â rheoliadau’r FCA a pholisïau mewnol

  • Ymdrin yn broffesiynol ag ymholiadau a chwynion sy’n gysylltiedig â chyllid

  • Darparu cefnogaeth ar draws y Tîm Cyllid yn ôl yr angen

 

Beth Sydd ein Angen Arnom

Sgiliau a Phrofiad Hanfodol

  • Profiad blaenorol mewn rôl cyllid neu gyfrifon

  • Sylw cryf i fanylion a lefel uchel o gywirdeb

  • Gwybodaeth dda o Excel (lefel ganolraddol)

  • Cyfathrebwr hyderus, sy’n gallu ymgysylltu â thrydydd partïon yn broffesiynol

  • Yn gyfarwydd â rheoliadau’r FCA a rheolau CASS 5

  • Isafswm o 5 TGAU (gradd C/4 neu uwch), gan gynnwys Mathemateg

  • Y gallu i weithio’n annibynnol gydag ychydig iawn o oruchwyliaeth

 

Dymunol

  • Profiad ym maes yswiriant neu wasanaethau ariann

  • Gwybodaeth am y system Acturis CRM

  • Sgiliau Excel uwch

  • Siaradwr Cymraeg neu barodrwydd i ddysgu

  • Cymwysterau ariannol (AAT, ac ati)

 

Buddion Gweithio Gyda Ni

Credwn mewn gwobrwyo ein tîm am eu gwaith caled a’u hymrwymiad. Fel aelod gwerthfawr o’n cwmni, byddwch yn mwynhau pecyn cystadleuol sy’n cynnwys:

  • Gwyliau Blynyddol: 25 diwrnod ynghyd â holl wyliau banc arferol gan roi amser ychwanegol i chi orffwys ac ailwefru.

  • Dathlu Dydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth): Dathlwch ddiwrnod cenedlaethol Cymru gyda diwrnod i ffwrdd â thâl.

  • Cynllun Pensiwn Safonol: Rydym yn cyfrannu uwchlaw’r isafswm i’ch helpu i adeiladu dyfodol ariannol diogelu.

  • Budd-dal Marwolaeth mewn Gwasanaeth: gan ddarparu tawelwch meddwl i chi a’ch anwyliaid, gyda budd-dal marwolaeth hael.

  • Rhaglen Cymorth i Staff (EAP): Cefnogaeth gyfrinachol i’ch lles meddyliol, emosiynol ac ariannol a hynny ar gael 24/7.

  • Aelodaeth Perkbox Mynediad at fanteision unigryw, gostyngiadau, ac adnoddau lles ar draws ystod eang o fanwerthwyr a gwasanaethau.