Wythnos Brecwast Ffermdy Undeb Amaethwyr Cymru yn dychwelyd yn 2026

Wythnos Brecwast Ffermdy Undeb Amaethwyr Cymru yn dychwelyd yn 2026

Bydd Undeb Amaethwyr Cymru yn dechrau’r flwyddyn ar nodyn blasus ac elusennol gyda dychweliad Wythnos Brecwast Ffermdy blynyddol yr undeb.

Fel rhan o’r wythnos, cynhelir dros 20 o ddigwyddiadau brecwast ledled Cymru, gan ddod â chymunedau gwledig ynghyd dros bryd o fwyd swmpus, gan godi arian ar gyfer elusennau lleol a chenedlaethol. 

Llynedd, cododd Wythnos Brecwast Ffermdy dros £21,000 i achosion elusennol, gan gynnwys dros £13,500 ar gyfer elusen Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ambiwlans Awyr Cymru.

Eleni, bydd yr wythnos hefyd yn gyfle i dynnu sylw at etholiad y Senedd ym mis Mai, gyda’r Undeb yn amlygu ein blaenoriaethau ar gyfer y Senedd nesaf a Llywodraeth Cymru er mwyn darparu sefydlogrwydd, cynaliadwyedd a chefnogaeth hirdymor i ffermydd teuluol Cymru.  Fel rhan o’r wythnos, bydd brecwast ym Mae Caerdydd, a noddir gan Samuel Kurtz AS, yn dod â gwleidyddion a rhanddeiliaid ynghyd i drafod dyfodol ffermio yng Nghymru.

Bydd y Wythnos Brecwast Ffermdy hefyd yn gyfle i ffermwyr ddysgu mwy am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ynghyd â’r gwasanaethau a’r gefnogaeth arbenigol gall Undeb Amaethwyr Cymru ddarparu yn lleol wrth i’r cynllun symud o’r cyfnod dylunio i’r cyfnod gweithredol.

Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman:

“Gall mis Ionawr fod yn gyfnod heriol i ffermwyr, gyda dyddiau byr, tywydd oer, a digon i’w wneud ar y fferm. Fodd bynnag, mae’r wythnos Brecwast Ffermdy yn cynnig cyfle perffaith i ffermwyr, ffrindiau a’r gymuned wledig ddod at ei gilydd, rhannu’r baich, a mwynhau brecwast blasus.

“Gyda etholiad hollbwysig i’r Senedd ychydig fisoedd i ffwrdd, bydd brecwast eleni hefyd yn darparu llwyfan i dynnu sylw at flaenoriaethau allweddol Undeb Amaethwyr Cymru: sefydlogrwydd, cynaliadwyedd a chefnogaeth hirdymor i ffermydd teuluol Cymru.

“Mae croeso cynnes i bawb ymuno â ni, ac edrychwn ymlaen at weld digwyddiadau llwyddiannus mewn ceginau, canolfannau cymunedol a chaffis ledled Cymru unwaith eto eleni, wrth i ni ddathlu’r cynnyrch lleol gorau a chodi arian ar gyfer achosion elusennol pwysig, gan gynnwys Ambiwlans Awyr Cymru.”

Unwaith eto, bydd yr wythnos yn cael ei chefnogi gan FUW Insurance Services Ltd, a enwyd yn ddiweddar ar restr nodedig Insurance Age Top 100 Brokers ar gyfer 2025.

Mae Gwasanaethau Yswiriant FUW yn darparu atebion yswiriant wedi’u teilwra i anghenion cartref a modur – gyda ffocws cryf ar wasanaeth lleol personol ym mhob rhan o Gymru. Gan gynnig amrywiaeth o yswiriant amaethyddol, masnachol a phersonol – o yswiriant fferm i yswiriant bywyd – mae’r cwmni yn gweithio’n agos gydag yswirwyr arbenigol i sicrhau bod ffermydd, busnesau gwledig ac unigolion yn cael eu diogelu’n briodol, gydag elw y cwmni yn cael ei ail-fuddsoddi i gefnogi gwaith yr Undeb dros ffermwyr Cymru.

Dywedodd Ann Beynon OBE, Cadeirydd Gwasanaethau Yswiriant FUW:

“Rydym yn falch iawn o gefnogi Wythnos Brecwast Fferm 2026.  Wedi’i wreiddio yng nghanol cymunedau gwledig, mae ein busnes yn falch o’r cyfle i ddod â phobl ynghyd i ddathlu cynnyrch lleol eithriadol Cymru, mwynhau cwmni ffrindiau a chymdogion, ac i esbonio sut mae ein gwasanaethau’n chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi busnesau gwledig.

“Mae’r wythnos yn gyfle i weld cryfder ac ysbryd cefn gwlad Cymru yn berffaith – a hynny i gyd dros frecwast swmpus. Rydym hefyd yn hynod ddiolchgar i’r cynhyrchwyr a’r gwirfoddolwyr lleol am eu haelioni – mae eu cefnogaeth yn gwneud y digwyddiadau hyn yn bosibl flwyddyn ar ôl blwyddyn.”

 

Nid yw Undeb Amaethwyr Cymru wedi ei reoleiddio gan y Financial Conduct Authority. Gwasanaethau Yswiriant FUW yw arddull masnachu FUW Insurance Services Limited sydd wedi ei awdurdodi a’i reoleiddio gan y Financial Conduct Authority. Rhif cofrestru (FRN) 615251. Swyddfa Gofrestredig: Llys Amaeth, Plas Gogerddan, ABERYSTWYTH, SY23 3BT. Wedi’i gofrestru yn Lloegr a Chymru o dan rif 07981993