SWYDD: Swyddog Marchnata Masnachol
Swydd: Swyddog Marchnata Masnachol
Lleoliad: Trefniadau gweithio hybrid yn caniatáu gweithio o gartref neu o un o swyddfeydd Undeb Amaethwyr Cymru yn ôl yr angen. Bydd gofyn i chi deithio ar draws Cymru ac weithiau dros Glawdd Offa ar gyfer digwyddiadau.
Cyflog: £28,000 – £32,000
Dyddiad cau: 03 Ebrill 2026, ond cedwir yr hawl i gau’r broses apwyntio os ceir hyd i ymgeisydd addas cyn y dyddiad hwn.
I wnedu cais: Cyflwynwch eich CV a llythyr cais i caryl.roberts@fuw.org.uk yn nodi manylion eich cymwysterau perthnasol. Dim ond ymgeiswyr cymwys y cysylltir â nhw i’w hystyried ymhellach.
Amdanom ni
Mae’r Grŵp yn cynnwys Undeb Amaethwyr Cymru a Gwasanaethau Yswiriant FUW.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn lais amlwg a dylanwadol ym maes amaethyddiaeth Cymru. Drwy ymuno â’n tîm, byddwch yn rhan o sefydliad sydd â hanes balch a dyfodol cyffrous.
Mae Gwasanaethau Yswiriant FUW yn un o brif froceriaid yswiriant Cymru, gyda mynediad at ystod eang o gynhyrchion blaenllaw drwy ein perthnas agos â darparwyr yswiriant blaenllaw. Ein nod yw darparu gwerth am arian law yn llaw ag enw da am gynnig cyngor arbenigol a gwasanaeth proffesiynol i fusnesau a mentrau masnachol.
Byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr angerddol ac yn cael cyfle i wneud gwahaniaeth bob dydd i fywydau ffermwyr a chymunedau gwledig Cymru.
Ynglŷn â’r Swydd:
O fewn y swydd fe fyddwch yn darparu gwasanaethau marchnata arloesol a chydymffurfiol sy’n cefnogi amcanion ein busnes. Bydd y swydd yn canolbwyntio ar gynllunio a gweithredu mentrau marchnata i ddenu cwsmeriaid newydd a chadw ein cwsmeriaid presennol.
Byddwch yn cryfhau brand y cwmni ar draws ein llwyfannau digidol ac yn cynnal ein cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol.
Bydd y swydd yn cynnwys cydweithio â rhanddeiliaid mewnol ac allanol i wneud y mwyaf o effaith ymgyrchoedd penodol, gan ddadansoddi perfformiad ac adborth yn barhaus. Yn ogystal, mae’r rôl yn gyfrifol am sicrhau bod pob gwaith yn cydymffurfio â rheoliadau’r FCA a pholisïau’r cwmni.
Amdanoch chi
Rydym yn chwilio am unigolyn â chefndir marchnata cadarn, gyda phrofiad masnachol sylweddol.
Hanfodol
● Profiad a dealltwriaeth o feddalwedd dylunio megis InDesign, Illustrator, Photoshop a Canva
● Profiad o ddylunio a chynnal gwefannau
● Profiad o arwain ymgyrchoedd marchnata
● Bod yn hunan-gymhellol, yn frwdfrydig ac yn fodlon mentro er mwyn cyflawni gwaith o safon
● Y gallu i deithio i bob rhan o Gymru ar gyfer hyfforddiant, digwyddiadau neu gyfarfodydd
● Perchen ar gar a thrwydded yrru lawn
● Y gallu i weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm bychan
● Sgiliau trefnu a rheoli amser cryf
● Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol
Dymunol
● Sgiliau Cymraeg (llafar / ysgrifenedig) yn fantais sylweddol
● Profiad o weithio mewn rôl marchnata o fewn y diwydiant yswiriant
● Profiad o weithio o fewn rheoliadau’r FCA
● Cymhwyster marchnata
