SWYDD: Gweithredwr Yswiriant
Lleoliad: Caernarfon
Cyflog: Cystadleuol
Cytundeb: Llawn amser, 35 awr
Dyddiad Cau: 2il Ebrill 2026 – ond cedwir yr hawl i gau’r broses apwyntio os ceir hyd i ymgeisydd addas cyn y dyddiad hwn.
Am fwy o wybodaeth: e-bostiwch Karen.Royles@fuw.org.uk
I ymgeisio: Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol at Karen.Royles@fuw.org.uk
Pam Ymuno â Grŵp yr FUW?
Mae Gwasanaethau Yswiriant FUW yn un o brif froceriaid yswiriant Cymru, gyda mynediad at ystod eang o gynhyrchion blaenllaw drwy ein perthnas agos â darparwyr yswiriant blaenllaw. Ein nod yw darparu gwerth am arian law yn llaw ag enw da am gynnig cyngor arbenigol a gwasanaeth proffesiynol i fusnesau a mentrau masnachol.
Am y Rôl
Rydym yn chwilio am unigolyn uchelgeisiol, llawn cymhelliant ac ymroddiad i’n helpu i wthio ffiniau’r hyn y gallwn ei gyflawni. Os ydych yn frwdfrydig dros fod yn rhan o gwmni sy’n tyfu, adeiladu perthnasoedd cryf, a chwarae rôl allweddol wrth lunio ein dyfodol, hoffem glywed gennych. Fel Swyddog Gweithredol Cyfrifon, byddwch yn gyfrifol am reoli portffolio presennol o gleientiaid, nodi a datblygu cyfleoedd busnes newydd, a sicrhau bod ein cleientiaid yn derbyn gwasanaeth o’r safon uchaf. Bydd y rôl yn canolbwyntio ar ddarparu atebion yswiriant wedi’u teilwra i anghenion unigol, gan sicrhau cydymffurfiaeth lawn â rheoliadau’r FCA a safonau mewnol y cwmni.
Amdanoch chi:
Rydym yn chwilio am unigolyn â phrofiad cryf o wasanaethu cwsmeriaid a gwerthu –
Hanfodol:
● Profiad o reoli cylch bywyd y polisi yswiriant
● I fod yn hunan-gymhellol, yn frwdfrydig ac yn cyflawni gwaith i safon uchel
● Profiad o weithio o fewn rheoliadau’r FCA
● Perchen ar gar a thrwydded yrru lawn
● Gallu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm bach
● Sgiliau trefnu a rheoli amser cryf
● Sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid cryf
● Profiad o gyrraedd Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPIs)
● Sgiliau iaith Gymraeg (llafar/ysgrifenedig) yn hanfodol
Dymunol:
● Profiad o ddefnyddio Acturis
● Y gallu i deithio ar draws Cymru ar gyfer hyfforddiant, digwyddiadau neu gyfarfodydd
