
Gwasanaethau Yswiriant FUW yn ehangu gwasanaeth yswiriant busnes gyda menter newydd, FUW Commercial
Mae’r brocer yswiriant, Gwasanaethau Yswiriant FUW, yn falch iawn o fod yn lansio menter newydd, sy’n canolbwyntio ar ddarparu yswiriant cynhwysfawr ar gyfer ystod eang o fusnesau masnachol.
Mae FUW Commercial yn adeiladu ar enw da Gwasanaethau Yswiriant FUW fel un o brif froceriaid yswiriant Cymru. Mae’r hanes hwn o wasanaeth yn caniatáu i FUW Commercial gynnig ystod o atebion yswiriant penodol i fusnesau sydd wedi’u hadeiladu ar sylfaen o ddealltwriaeth a gwybodaeth helaeth am y diwydiant.
Wrth lansio gyda ffocws cychwynnol ar ogledd Cymru a choridor yr A55, bydd FUW Commercial yn darparu dewis eang o gynhyrchion yswiriant masnachoar gyfer ystod eang o fusnesau, gan gynnwys; contractwyr cludiant, cwmnïau adeiladu, masnachwyr moduron, gwestai, meysydd carafanau, tafarndai, bwytai a siopau.
Arweinir y fenter newydd gan weithredwr cyfrif profiadol, Esther Richards Dip CII, sydd wedi gweithio i Wasanaethau Yswiriant FUW yn Sir y Fflint a Sir Ddinbych ers 2013.
Dros y ddegawd diwethaf mae Esther wedi adeiladu cyfoeth o wybodaeth o fewn y sector yswiriant – gan hyrwyddo gwasanaeth wyneb yn wyneb wrth ddelio â chleientiaid, boed gartref neu yn y swyddfa.
Dywedodd Esther Richards, Gweithredwr Cyfrif FUW Commercial:
“Rwy’n gyffrous iawn i fod yn arwain y prosiect newydd hwn sydd â’r nod o flaenoriaethu anghenion yswiriant busnesau a siopau masnachol.
Gyda dros ddegawd o brofiad yn y diwydiant yswiriant, rwy’n deall fod gan bob busnes ofynion unigryw. Yn FUW Commercial, rydyn ni’n blaenoriaethu ymagwedd gydweithredol a phersonol at yswiriant, gan weithio’n agos gyda chleientiaid i deilwra datrysiadau yswiriant sy’n cyd-fynd â’u anghenion penodol a’u cyllidebau.
Wedi’i adeiladu ar sylfaen Gwasanaethau Yswiriant FUW, byddwn yn buddsoddi amser i ddeall eich busnes, gan sicrhau y gallwn ddefnyddio ein profiad a’n harbenigedd i gael mynediad at ystod eang o gynhyrchion a sicrhau bod gyda chi’r yswiriant cywir yn ei le.
“Os yw’n amser i adnewyddu, neu os ydych yn fusnes newydd, peidiwch ag oedi cyn cysylltu. Rydym yn ymdrechu i gynnig prisiau cystadleuol ac rydym wedi ymrwymo i ddod o hyd i’r dewis gorau a darparu’r yswiriant cywir i chi a’ch busnes.”
Mae lansiad FUW Commercial yn cyd-ddigwydd â phen-blwydd Undeb Amaethwyr Cymru (UAC CYF.FUW LTD.) yn 70 oed, ac mae FUW Insurance Services LTD yn is-gwmni sy’n eiddo’n llwyr i’r Undeb.
Wrth wneud sylw yn dilyn lansiad FUW Commercial, dywedodd Prif Weithredwr Grŵp Undeb Amaethwyr Cymru, Guto Bebb:
“Rydym bob amser yn chwilio am gyfleoedd i ddatblygu brand Gwasanaethau Yswiriant FUW ac i wasanaethu busnesau yng Nghymru sydd angen yswiriant.
Roedd gwybodaeth arbenigol ac angerdd Esther am yswiriant masnachol a busnes yn ein galluogi i ddatblygu brand newydd yn arbenigo mewn cyfleoedd masnachol.
Mae coridor yr A55 yn gyfle unigryw i Wasanaethau Yswiriant FUW fanteisio ar ein gallu i gynnig yswiriant masnachol o ansawdd uchel i fusnesau, mawr a bach, megis cwmnïau adeiladu, gwestai a meysydd carafanau, tra hefyd yn cefnogi busnesau’r stryd fawr fwy traddodiadol fel caffis, salonau gwallt a siopau.”