SWYDD: Gweithredwr Cyfrif Yswiriant Masnachol

SWYDD: Gweithredwr Cyfrif Yswiriant Masnachol

Swydd: Gweithredwr Cyfrif Yswiriant Masnachol

Lleoliad: Gweithio o bell, gyda’r gallu i deithio ar draws Gogledd Cymru

Cyflog: Enillion ar y Targed £55-£60K (Cyflog sylfaenol £45k + Comisiwn + Bonws)

Dyddiad cau: 20/11/2025. Rydym yn cadw’r hawl i ddod a’r broses i ben yn gynt os ceir ymgeisydd priodol.

I wnedu cais: Cyflwynwch eich CV a llythyr cais i karen.royles@fuw.org.uk yn nodi manylion eich cymwysterau perthnasol. Dim ond ymgeiswyr cymwys y cysylltir â nhw i’w hystyried ymhellach.

Amdanom ni

Mae ‘FUW Commercial’ yn fenter newydd sy’n cynnig yswiriant cynhwysfawr i fusnesau. Wrth i ni barhau i adeiladu ein cwmni, rydym wedi ymrwymo i ddarparu yswiriant wedi’i deilwra sy’n diwallu anghenion unigryw pob busnes, dim ots beth yw maint y busnes neu’i sector. Boed yn fusnes bach, yn fanwerthwr ar y stryd fawr neu’n fusnes masnachol mawr, rydym yn cymryd yr amser i ddeall eich gofynion penodol ac yn gweithio’n agos gyda nhw i ddod o hyd i’r yswiriant cywir.

Fel rhan o Wasanaethau Yswiriant FUW, un o froceriaid yswiriant mwyaf blaenllaw Cymru, mae gennym fynediad at y farchnad yswiriant yn ei chyfanrwydd trwy ein perthynas agos â’r darparwyr yswiriant masnachol gorau. Ein nod yw darparu gwerth gwych am arian, wedi’i ategu gan enw da am gynnig cyngor arbenigol a gwasanaeth proffesiynol i fusnesau a mentrau masnachol.

Ynglŷn â’r Swydd:

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i FUW Commercial, ac rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a llawn brwdfrydedd i’n helpu i ddatblygu’r hyn y gallwn ei gyflawni ymhellach. Os ydych chi’n awyddus i fod yn rhan o gwmni sy’n tyfu, meithrin cysylltiadau gyda busnesau a llunio ein dyfodol, rydym am i chi fod yn rhan o’n tîm ni! Fel Gweithredwr Cyfrif Yswiriant Masnachol, byddwch yn gyfrifol am reoli’r portffolio presennol o gleientiaid, chwilio am gyfleoedd newydd, a sicrhau bod ein cleientiaid yn derbyn y lefel uchaf o wasanaeth. Bydd eich swydd yn canolbwyntio ar ddarparu yswiriant wedi’u teilwra tra’n glynu gyda chydymffurfiaeth yr FCA a safonau’r cwmni.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

Rheoli Cleient:

 

  • Adeiladu a chynnal perthnasoedd cryf â chleientiaid, nodi anghenion, a chynnig yswiriant masnachol priodol.

  • Sicrhau bod gwybodaeth yn cael eu cyflwyno’n gywir i’r cleientiaid a bod y cytundeb yn cael ei gwblhau yn effeithlon.
  • Rheoli eich perfformiad gwerthu eich hunan i gyrraedd targedau allweddol ar gyfer busnes newydd, adnewyddiadau a chroes-werthu.

 

Datblygu Busnes Newydd:

  • Chwilio’n rhagweithiol am gyfleoedd a chysylltiadau newydd o fewn y farchnad yswiriant masnachol, gan ganolbwyntio ar fusnesau a fyddai’n elwa o’n hyswiriant cynhwysfawr.

  • Adeiladu rhwydwaith gadarn o fusnes newydd trwy chwilio a rhwydweithio’n uniongyrchol a manteisio ar berthnasoedd presennol o fewn y diwydiant.

  • Datblygu a gweithredu strategaethau i ddenu cleientiaid newydd, gan sicrhau bod eich portffolio busnes yn parhau i dyfu ac arallgyfeirio.

Cydymffurfiaeth a Glynu wrth Reoleiddio:

  • Sicrhau bod yr holl weithgareddau busnes yn cydymffurfio â rheoliadau’r FCA, polisïau ymddygiad y cwmni, ac arferion gorau.

  • Ymdrin â chwynion yn effeithiol ac yn unol â pholisïau’r cwmni.

  • Hyrwyddo trin cwsmeriaid yn deg (TCF) a sicrhau bod anghenion cwsmeriaid yn cael blaenoriaeth ym mhob gweithred.

  • Cynnal cydymffurfiaeth â pholisïau diogelwch data a chyfrinachedd, gan gynnwys GDPR a chadw cofnodion.

Datblygiad Proffesiynol a Chydweithio Tîm:

  • Ymgysylltu â datblygiad proffesiynol parhaus, gan gynnwys hyfforddiant, asesiadau a mentrau dysgu.

  • Cydweithio â’r tîm Cydlynwyr Cyfrif i ddarparu gwasanaeth di-dor i gleientiaid.

  • Datblygu a chynnal perthnasoedd cryf gydag yswirwyr a phartneriaid eraill er mwyn gwella twf busnes.

Cyfrifoldebau Cyffredinol:

  • Sicrhau bod tasgau gweinyddol yn gweithredu’n esmwyth, gan roi blaenoriaeth i gyfathrebu â chleientiaid a sicrhau ymatebion amserol.

  • Gweithio o fewn canllawiau iechyd a diogelwch i gynnal amgylchedd gwaith proffesiynol a diogel.

 

Mae Gwasanaethau Yswiriant FUW yn sefydliad dwyieithog. Byddai’r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

 

Mwy o wybodaeth:

Job Description – Commercial Account Executive 2025 (1)

Commercial Account Executive- Job advert (2)