Gwasanaethau Yswiriant FUW yn croesawu Paul Jameson fel Cyfarwyddwr Anweithredol
Mae Gwasanaethau Yswiriant FUW, yn falch iawn o gyhoeddi penodiad Dr. Paul Jameson fel Cyfarwyddwr Anweithredol i’n Bwrdd.
Mae gan Dr. Jameson brofiad sylweddol mewn yswiriant a rheoli risg, gyda chyfnodau o weithio fel Actwari ac o fewn timau gweithredol mewn cwmnïau yswiriant byd-eang megis Allianz, Munich Re, Legal & General, a Wakam, gan ddal swyddi Prif Swyddog Risg ers 2020.
Drwy gydol ei yrfa, mae Dr. Jameson wedi arwain timau amrywiol o actiwariaid, rheolwyr risg, gweithwyr proffesiynol cydymffurfio, archwilwyr a chyfreithwyr, gan ddatblygu persbectif eang a dealltwriaeth ddofn o faterion strategol a gweithredol.
Gan ddatgan ei frwdfrydedd dros y rôl newydd, dywedodd Dr. Jameson, sy’n byw ym Mae Colwyn, Gogledd Cymru:
“Rwyf wrth fy modd o fod yn ymuno â Gwasanaethau Yswiriant FUW, a hoffwn ddiolch i Ann, Guto, a gweddill y tîm am y croeso cynnes.
Rwyf wedi fy nharo gan angerdd ac ymrwymiad y cyfarwyddwyr i’r gymuned amaethyddol, a’r uchelgais sydd ganddynt i dyfu ac arallgyfeirio’r busnes yswiriant. Rwyf innau hefyd ar dân dros gefnogi’r sector amaeth gan sicrhau llwyddiant i’r diwydiant yng Nghymru, yn enwedig yn ystod cyfnod o ansicrwydd economaidd a gwleidyddol.”
Rwy’n gobeithio y bydd fy mhrofiad helaeth o fewn y sector yswiriant yn caniatáu i Wasanaethau Yswiriant FUW adeiladu ar ei lwyddiannau a pharhau i dyfu, yn enwedig wrth i ni edrych at gyfleoedd masnachol newydd a llwybrau arloesol ar gyfer ehangu.”
Croesawodd Ann Beynon OBE, Cadeirydd y Bwrdd, benodiad Dr. Jameson, gan ddweud:
“Rydym wrth ein bodd yn croesawu Dr. Paul Jameson i fwrdd Gwasanaethau Yswiriant FUW. Bydd ei brofiad eithriadol yn y sector yswiriant a’i ddealltwriaeth ddofn o reoli risg yn amhrisiadwy wrth i ni barhau i dyfu ac amrywio ein gwasanaethau.
“Bydd cefndir a phersbectif strategol Paul o gymorth wrth lywio’r heriau o fewn y farchnad yswiriant, manteisio ar gyfleoedd newydd, a gyrru ein huchelgais i wella gwasanaethau ac adnabod llwybrau masnachol newydd.”
Daw penodiad Dr. Paul Jameson i Fwrdd Gwasanaethau Yswiriant FUW yn dilyn penderfyniad Ken Isherwood i ymddeol ar ôl mwy na degawd o wasanaeth ymroddedig i’r Bwrdd.
Ychwanegodd Ann Beynon OBE:
“Mae doethineb a dealltwriaeth ddofn Ken o’r diwydiant yswiriant wedi bod yn sail i gymaint o’n llwyddiant.
Mae wedi bod yn fraint gweithiogyda Ken a dysgu o’i arweiniad a’i fewnwelediad. Dymunwn bob hapusrwydd iddo yn ei ymddeoliad haeddiannol.”
