Adam Mead wedi’i benodi’n Weithredwr Cyfrif FUW Commercial
Mae FUW Insurance Services Ltd yn falch o gyhoeddi penodiad Adam Mead fel Gweithredwr Cyfrif Yswiriant ar gyfer FUW Commercial, gan gryfhau ymrwymiad y busnes i ddarparu atebion yswiriant masnachol dibynadwy ar gyfer busnesau ar draws Gogledd Cymru.
Mae gan Adam dros 18 mlynedd o brofiad yn y sector yswiriant, gan gynnwys cyfnod fel perchennog busnes. Mae’r profiad ymarferol hwn yn rhoi dealltwriaeth fanwl iddo o’r heriau dyddiol y mae busnesau’n wynebu, gan ei alluogi i ddarparu cyngor ymarferol, gwybodus a phersonol i gleientiaid.
Wedi ei eni a’i fagu a datblygu gyrfa yng ngogledd Cymru mae Adam bellach yn byw yn Nhreffynnon, Sir y Fflint, gyda’i bartner, y tri mab ynghyd â chi. Mae ei wreiddiau lleol yn sail i’w angerdd dros gefnogi busnesau sy’n chwarae rhan hanfodol yng nghymunedau’r ardal.
Lansiwyd FUW Commercial yn 2025 fel rhan o fuddsoddiad parhaus FUW Insurance Services Ltd i ehangu ein gwasanaeth yswiriant masnachol. Mae’r fenter yn adeiladu ar enw da Gwasanaethau Yswiriant FUW sy’n un o froceriaid yswiriant mwyaf blaenllaw a mwyaf dibynadwy Cymru – statws gafodd ei gadarnhau yn ddiweddar wrth i’r busnes ymddangos ar restr 100 Prif Frocer Yswiriant y DU gan y cylchgrawn Insurance Age.
Gyda ffocws penodol ar goridor yr A55 yng Ngogledd Cymru, mae FUW Commercial yn darparu atebion yswiriant cynhwysfawr a phenodol ar gyfer ystod eang o fusnesau – o fentrau bach a busnesau sy’n tyfu i fusnesau masnachol mwy. Drwy dreulio amser i ddeall anghenion unigryw pob cleient, mae FUW Commercial yn sicrhau yswiriant priodol ar draws meysydd megis eiddo, adeiladu, lletygarwch, hamdden a manwerthu gan roi hyder i berchnogion busnesau fod eu busnesau ac asedau wedi’i diogelu’n briodol.
Yn dilyn ei benodiad, dywedodd Adam Mead:
“Mae Gogledd Cymru wedi bod yn gartref i mi drwy gydol fy mywyd, ac rwy’n angerddol dros gefnogi’r busnesau lleol sy’n gwneud i’n cymunedau ffynnu. Roedd ymuno â brocer dibynadwy sy’n tyfu’n gyflym, fel Gwasanaethau Yswiriant FUW, yn teimlo fel y ffordd berffaith i gefnogi’r ardal rwy’n ei garu.
Mae pob busnes yn unigryw, ac rwy’n ymfalchïo mewn cynnig gwasanaeth personol, cyfeillgar– o’r ymholiad cychwynnol hyd at adnewyddiadau yn y dyfodol. Rwyf wedi ymrwymo i ddefnyddio fy rôl yn FUW Commercial i gefnogi busnesau Cymreig a’u helpu i lwyddo. Os hoffech gael sgwrs heb rwymedigaeth am eich anghenion yswiriant masnachol, byddwn wrth fy modd yn clywed gennych.”
Wrth groesawu Adam i’r rôl, dywedodd Ann Beynon OBE, Cadeirydd Gwasnaethau Yswiriant FUW:
“Rydym wrth ein bodd yn croesawu Adam Mead i FUW Commercial. Gyda’i brofiad helaeth mewn yswiriant masnachol, ynghyd â’i fewnwelediad gwerthfawr fel cyn-berchennog busnes, mae Adam mewn sefyllfa gref i gefnogi ein cleientiaid ym mhob rhan o Ogledd Cymru.
Mae ei benodiad yn cryfhau ein harbenigedd masnachol ac yn atgyfnerthu ein hymrwymiad parhaus i ddarparu atebion yswiriant o’r safon uchaf i fusnesau Cymru.”
Am ragor o wybodaeth, neu i drafod eich gofynion yswiriant masnachol wedi’u teilwra, cysylltwch ag Adam Mead ar adam.mead@fuw.org.uk neu 07706 333870, neu ewch i wefan FUW Commercial.
FUW Commercial and Gwasanaethau Yswiriant FUW are trading styles of FUW Insurance Services Ltd who are authorised and regulated by the Financial Conduct Authority, Firm Reference Number (FRN) 615251. Registered firm and address : FUW Insurance Services Limited, Llys Amaeth, Plas Gogerddan, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BT. Registered in England & Wales 07981993.
