Annog ffermwyr a chymunedau gwledig i fod yn wyliadwrus rhag lladrad tanwydd

Annog ffermwyr a chymunedau gwledig i fod yn wyliadwrus rhag lladrad tanwydd

Mae FUW Insurance Services Ltd yn annog ffermwyr a thrigolion y Gymru wledig i fod yn wyliadwrus rhag lladrad tanwydd yn dilyn cynnydd sylweddol ym mhrisiau tanwydd ac olew gwresogi o ganlyniad i’r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol.

Mae adroddiadau gan y Farmers Weekly, ymhlith eraill, yn dangos bod pris diesel coch wedi cynyddu’n sylweddol yn ddiweddar gan gyrraedd tua 109 ceiniog y litr ganol mis Mawrth.  Mae hynny i fyny o tua 67 ceiniog y litr ym mis Chwefror – cynnydd o dros 60%. Mae prisiau olew gwresogi hefyd wedi gweld cynnydd sylweddol ac mewn nifer o achosion wedi mwy na dyblu o tua 60 ceiniog y litr i tua £1.30 y litr.

Mae’r costau cynyddol hyn yn cael effaith sylweddol ar gymunedau gwledig, lle mae dibyniaeth ar olew yn parhau’n uchel. Mewn ardaloedd fel Powys, mae ymhell dros hanner y cartrefi heb gysylltiad r â’r grid nwy, tra yng Ngheredigion mae’r ffigwr hwn yn codi i 74%.  Mae hyn yn gadael aelwydydd a ffermydd yn ddibynnol ar olew ar gyfer gwresogi a thrwy hynny yn arbennig o fregus pan ddaw cyfnod o brisiau’n cynyddu.

Mae’r cynnydd ym mhrisiau tanwydd hefyd yn codi pryderon ynghylch troseddau gwledig. Yn hanesyddol, mae cynnydd mewn costau tanwydd wedi’i gysylltu â chynnydd mewn lladradau, gyda ffermydd yn yn cael eu targedu oherwydd presenoldeb tanciau tanwydd a pheiriannau. Gall digwyddiadau o’r fath yn arwain at golledion ariannol, ond gallant hefyd achosi difrod amgylcheddol a llygredd os bydd tanciau’n cael eu difrodi neu os bydd tanwydd yn gollwng.

Mae ffermwyr yn cael eu hannog i gymryd camau ymarferol i ddiogelu eu heiddo a’u hasedau. Mae’r rhain yn cynnwys monitro lefelau tanwydd yn rheolaidd, sicrhau tanciau a phympiau gyda chloeon a mesurau diogelwch priodol, a gosod CCTV lle bo hynny’n bosibl. Gall bod yn wyliadwrus ac adrodd am weithgarwch amheus chwarae rhan allweddol wrth atal lladradau.

Mae’r rhybudd yn ymestyn yn ehangach na ffermydd yn unig gan fod yn berthnasol i adeiladau gwledig eraill megis eglwysi a chapeli, neuaddau pentref a chyfleusterau cymunedol.  Y mae’r rhain oll yn gallu bod yn ddibynnol ar olew gwresogi gyda’r adeiladau’n wag am gyfnodau maith.

Dywedodd Dafydd Peredur Jones, Uwch Weithredwr Yswiriant gyda Gwasanaethau Yswiriant FUW:

“Mae’r codiad ym  mhrisiau tanwydd yn rhoi pwysau ychwanegol ar gymunedau gwledig gan hefyd gynyddu’r risg o ladrad. ‘Rydym yn annog ffermwyr a thrigolion gwledig i gymryd camau rhesymol i ddiogelu eu cyflenwadau tanwydd ac i aros yn wyliadwrus. Gall mesurau syml helpu rhwystro lladron a gwneud gwahaniaeth sylweddol i ddiogelwch ffermydd ac adeiladau gwledig.”

Mae Gwasanaethau Yswiriant FUW yn parhau i gefnogi cwsmeriaid a’r gymuned wledig ehangach yn ystod y cyfnod heriol hwn a thrwy hynny’n annog unrhyw un sydd â phryderon ynghylch yswiriant neu drefniadau diogelwch i gysylltu â’u swyddfa leol.