Gweithredwr Yswiriant
Gweithredwr Yswiriant
Lleoliad: 2 Llys Clwyd, Parc Busnes Lon Parcwr, Ruthin, LL15 1NJ
Contract: Dros dro am 12 mis -Llawn amser, 35 awr
Dyddiad Cau: 24ain o Fedi2026 – ond cedwir yr hawl i gau’r broses apwyntio os ceir hyd i
ymgeisydd addas cyn y dyddiad hwn.
Am fwy o wybodaeth: e-bostiwch Alice.Thomas@fuw.org.uk
I ymgeisio: Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol at Alice.Thomas@fuw.org.uk
Pam Ymuno â Grŵp yr FUW? Mae Gwasanaethau Yswiriant FUW yn un o brif froceriaid yswiriant Cymru, gyda mynediad at ystod eang o gynhyrchion blaenllaw drwy ein perthnas agos â darparwyr yswiriant blaenllaw. Ein nod yw darparu gwerth am arian law yn llaw ag enw da am gynnig cyngor arbenigol a gwasanaeth proffesiynol i fusnesau a mentrau masnachol.
Am y Rôl
Rydym yn chwilio am unigolyn uchelgeisiol, llawn cymhelliant ac ymroddiad i’n helpu i wthio ffiniau’r hyn y gallwn ei gyflawni. Os ydych yn frwdfrydig dros fod yn rhan o gwmni sy’n tyfu, adeiladu perthnasoedd cryf, a chwarae rôl allweddol wrth lunio ein dyfodol, hoffem glywed gennych.
Fel Swyddog Gweithredol Cyfrifon, byddwch yn gyfrifol am reoli portffolio presennol o gleientiaid, nodi a datblygu cyfleoedd busnes newydd, a sicrhau bod ein cleientiaid yn derbyn gwasanaeth o’r safon uchaf. Bydd y rôl yn canolbwyntio ar ddarparu atebion yswiriant wedi’u teilwra i anghenion unigol, gan sicrhau cydymffurfiaeth lawn â rheoliadau’r FCA a safonau mewnol y cwmni.
Amdanoch chi:
Rydym yn chwilio am unigolyn â phrofiad cryf o wasanaethu cwsmeriaid a gwerthu –
Hanfodol:
● Profiad o reoli cylch bywyd y polisi yswiriant
● I fod yn hunan-gymhellol, yn frwdfrydig ac yn cyflawni gwaith i safon uchel
● Profiad o weithio o fewn rheoliadau’r FCA
● Perchen ar gar a thrwydded yrru lawn
● Gallu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm bach
● Sgiliau trefnu a rheoli amser cryf
● Profiad o gyrraedd Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPIs)
● Sgiliau iaith Gymraeg (llafar/ysgrifenedig) yn hanfodol
Desirable:
● Profiad o ddefnyddio Acturis
● Y gallu i deithio ar draws Cymru ar gyfer hyfforddiant, digwyddiadau neu gyfarfodydd
