Eich cyswllt yswiriant

Daybreak over Welsh farm

Eich cyswllt yswiriant

Mae yswiriant yn rywbeth anochel bywyd i lawer iawn ohonom, fel mynd a’r car am MOT, ymweld â’r deintydd, neu lenwi ffurflen dreth.

Mae’n un o’r pethau hynny sy’n digwydd bob blwyddyn, gan roi trefn hanfodol hyd yn oed i’r bobl fwyaf digymell na ellir ei hosgoi.

Bydd gan lawer ohonom garej MOT, yr un deintydd, neu gyfrifydd dibynadwy.

Ond beth am yswiriant? A yw’r rhyngrwyd yn fan rhwydd ar gyfer trefnu eich polisïau yswiriant car, cartref a theithio? Mae hyn yn wir i lawer ohonom, ac nid yw’n anodd gweld pam. Nid oes unrhyw deyrngarwch pan fydd pawb yn siopa o gwmpas, ac mor aml yr unig ffordd i osgoi cynnydd yn eich premiwm ar ôl blwyddyn yw treulio peth amser yn edrych pa ddarparwr sy’n cynnig bargen dda.

Ond does dim rhaid i bethau fod fel hyn. Gallwch gael rhywun i fynd ato, sydd mewn gwirionedd yn berson go iawn, trwy fynd i ymweld â’ch broceriaid yswiriant lleol, fel Gwasanaethau Yswiriant FUW.

Efallai ei fod yn ymddangos yn rhyfedd, a hyd yn oed yn syniad hen ffasiwn erbyn hyn yng nghysgod y rhyngrwyd a gwefannau cymharu, ond gall brocer yswiriant annibynnol eich helpu chi i gael polisi yswiriant sy’n mynd i weithio orau i chi.

O ran gwerth, gallai o bosibl gynnig llawer mwy o yswiriant ac amddiffyniad.

 

Daw gwybodaeth Gwasanaethau Yswiriant FUW o brofiad, nid meini prawf

Rydyn ni’n adnabod y farchnad, felly os byddwch chi’n dod atom ni gyda’ch gofynion, bydd y gwaith o feddwl am ddarparwyr neu gynnyrch wedi dechrau cyn gorffen yr ymgynghoriad.

 

Rydyn ni’n eich adnabod chi fel person

Efallai bod eich amgylchiadau’n gymhleth ond bydd Gwasanaethau Yswiriant FUW wedi treulio amser hir yn meithrin perthynas cryf â nifer o ddarparwyr, felly mae gennym y pŵer i drafod ar eich rhan y polisi sy’n ddelfrydol i chi sydd o bosib y tu hwnt i’ch cyrraedd fel arall.

 

Creu

Faint o ganlyniadau ydych chi’n eu cael wrth roi eich meini prawf ar-lein a chlicio “mynd”? Dwsinau yn ôl pob tebyg. Ond faint o’r rheini sy’n cynnig yr hyn sydd ei angen arnoch chi mewn gwirionedd? Ychydig iawn yn ôl pob tebyg.

Gallwch fynd am bolisi yswiriant cartref lle nad ydych ond yn chwilio am yswiriant cynnwys £10,000 ond yn cael o leiaf £50,000 ar y polisi rhataf, sy’n cydweddu, ac os felly rydych eisoes yn talu am rywbeth nad oes ei angen arnoch.

Mae Gwasanaethau Yswiriant FUW yn ystyried pob cwsmer yn ofalus ac yn golygu nad ydych yn gordalu am yswiriant nad oes ei angen arnoch chi. Os yw hyn yn golygu llunio polisi gyda gwahanol gynhyrchion, yna dyna beth y bydd Gwasanaethau Yswiriant FUW, sydd wedi’i awdurdodi a’i reoleiddio gan yr FCA yn ei wneud.

 

Gyda chi mae’r gair diwethaf….

Mae Gwasanaethau Yswiriant FUW yn gyfryngwyr a fydd yn cynghori, nid yn cyfarwyddo. Felly rydych chi’n rhoi gwybodaeth amdanoch chi’ch hun a all ein helpu i ddod o hyd i nifer o opsiynau sy’n addas i chi, gofyn unrhyw gwestiynau, a gwyntyllu unrhyw bryderon, ond chi sy’n penderfynu yn y pen draw pa bolisi i fynd amdano.

 

… Ond bydd y penderfyniad yn hawdd

Wrth ystyried eich opsiynau, bydd Gwasanaethau Yswiriant FUW yn egluro’r manteision a’r anfanteision mewn modd dealladwy, a fydd yn arbed amser i chi wrth geisio cyfieithu dogfen bolisi hir sy’n llawn terminoleg sy’n gysylltiedig â’r diwydiant.

 

Bydd Gwasanaethau Yswiriant FUW yn delio a’r gwaith papur

Mae gennym dîm cymorth hawliadau mewnol, felly os oes angen i chi wneud hawliad, ffoniwch ni cyn gynted â phosibl, gan roi manylion yr amgylchiadau, a gadewch i ni drafod eich taliad gan eich darparwr polisi, mewn proses cyflym a rhwydd

 

Bydd Gwasanaethau Yswiriant FUW yn eich diweddaru

Nid yw hynny’n golygu anfon llythyr neu e-bost atoch adeg ei adnewyddu yn dweud bod eich premiwm newydd wedi cynyddu pedair gwaith. Mae’n golygu cysylltu â chi i weld a oes unrhyw newidiadau yn eich amgylchiad i sicrhau bod eich amddiffyniad yn dal i fod yn addas at y diben, ac yn dal i fod yn gystadleuol o ran pris.

Dyna’r math o gyswllt yswiriant y gallai pawb elwa ohono. Beth am fynd i’ch un o’n canghennau lleol neu ffoniwch ein tîm cyfeillgar ar 0344 800 3110.