Stori Dau Fusnes

business

Stori Dau Fusnes

Mae Dean a Diane eisiau rhoi cynnig ar redeg busnes bach yn eu tref leol. Mae Dean eisiau agor siop hen bethau lleol, tra bod Diane wedi troi ei golygon at agor bwtîc bach wrth ymyl yr afon. Magwyd y ddau entrepreneur yn yr un dref, felly maent yn gwybod bod galw am eu busnesau. Maent wedi llunio cynlluniau ac wedi sicrhau’r holl fenthyciadau angenrheidiol. Y cam nesaf yw dod o hyd i bolisi yswiriant addas. Ond lle mae cychwyn? Er bod y ddwy yn siopau bach yn yr un dref, os cânt eu gwneud yn iawn, bydd eu polisïau’n edrych yn wahanol iawn.

Yswirio siop hen bethau Dean

Mae Dean wedi’i leoli yng nghanol y dref, ymhlith prysurdeb y stryd fawr. Mae’n rhentu’r siop ond mae’n berchen ar y fflat uwch ei phen. Oherwydd bod gan Dean eiddo masnachol a phreswyl cymysg, mae angen yswiriant pwrpasol arno i fodloni gofynion yswiriant.

Gan fod Dean yn gwerthu ac yn trin hen bethau, mae angen amddiffyniad arno i adlewyrchu’r ffaith y bydd yn glanhau, yn adfer ac yn prisio ei eitemau. Ar gyfer hyn, dylai ei yswiriant gynnwys yswiriant ar gyfer adfer ac atgyweirio. Mae angen iddo hefyd gymryd i ystyriaeth unrhyw amrywiadau yng ngwerth ei ddarnau wrth iddynt gynyddu a gostwng dros y blynyddoedd. Gellid eitemau Dean gael eu cadw yn y siop am lawer hirach na siopau eraill yr ardal, felly mae’n hanfodol iddo ailbrisio yn rheolaidd.

Bydd angen i bolisi Dean hefyd gymryd i ystyriaeth dibrisiant mewn gwerth yn dilyn adfer eitem. Er enghraifft, pe bai angen iddo adfer llyfr argraffiad cyntaf, byddai hyn wedyn werth llawer llai na’i werth cychwynnol. Neu pe bai’n rhaid iddo atgyweirio paentiad oherwydd difrod dŵr. Mae Dean yn disgwyl i gwsmeriaid gael cip olwg go iawn o gwmpas ei siop hen bethau, felly mae hefyd angen digon o yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, cynnyrch a chyflogwyr arno. Bydd hyn yn talu am unrhyw ffioedd cyfreithiol ac iawndal sy’n deillio, er enghraifft, os bydd rhywun yn cwympo yn ei siop oherwydd ei esgeulustod.

Gellir prynu eitemau Dean’s ar-lein hefyd ac mae’n cludo llawer o’i eitemau dramor, yn ogystal â chludo ei nwyddau i ddelwyr lleol a phrynu a gwerthu mewn arwerthiannau. Mae hyn yn golygu ei fod nid yn unig angen yswiriant am nwyddau sydd ar daith, ond mae hefyd angen yswiriant ar gyfer nwyddau sy’n cael eu hanfon ledled y byd. Oherwydd ei bresenoldeb ar-lein, byddai ei fusnes yn elwa o yswiriant seiber i’w amddiffyn pe bai yna ymosodiad digidol.

Nodweddion allweddol polisi Dean

  • Yswiriant Eiddo Masnachol a Phreswyl Cymysg
  • Adfer ac Atgyweirio
  • Ymyriadau Busnes
  • Stoc gan gynnwys gwerth a gytunwyd
  • Dibrisiant yn dilyn adferiad
  • Nwyddau sydd ar daith
  • Atebolrwydd Seiber
  • Eitemau’n cael eu hanfon ledled y DU, yr UE a ledled y byd
  • Atebolrwydd Cyhoeddus, Cynnyrch a Chyflogwyr

Yswirio Bwtîc Diane

Mae Diane wedi dewis rhentu eiddo masnachol ar lan yr afon. Er bod gan ei landlord ei yswiriant ei hun ar gyfer yr adeilad, y celfi a’r gosodiadau, nid yw hyn yn cynnwys difrod i offer, stoc, materion atebolrwydd neu ymyrraeth i fusnes Diane. Byddai angen cymryd y rhain i ystyriaeth o dan bolisi yswiriant Diane ei hun.

Gan fod y siop wedi’i leoli ger yr afon, mae’n croesawu llawer o gwsmeriaid. Fodd bynnag, mae ei agosrwydd at y dŵr yn golygu ei fod mewn perygl o lifogydd.  Os bydd llifogydd yn digwydd, bydd angen i Diane ddod o hyd i ffordd i ariannu’r gwaith o atgyweirio ac ailosod asedau sydd wedi’u difrodi yn ogystal ag ariannu cyflogau ei hun a’i staff yn ystod y cyfnod na all y busnes weithredu. Oherwydd y risg uchel, mae angen Yswiriant Llifogydd arbenigol ar Diane i sicrhau premiwm cystadleuol.

Mae Bwtîc Diane yn disgwyl gweld amrywiadau mewn stoc ar adegau allweddol o’r flwyddyn, felly dylai ei pholisi yswiriant gymryd hyn i ystyriaeth er mwyn sicrhau bod ganddi’r gorchudd cywir yn ystod y misoedd prysurach. Bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn ei yswiriant diogelwch stoc.

Fel busnes sy’n croesawu’r cyhoedd, mae busnes Diane yn fwy tebygol na busnesau eraill o hawliadau atebolrwydd cyhoeddus am lithro a chwympo a gan bod hi’n cyflogi staff, yn gyfreithiol, mae’n ofynnol iddi gael yswiriant atebolrwydd cyflogwyr.

Yn aml, mae Diane yn mynychu sioeau masnach ffasiwn i arddangos ei dillad a gwneud cysylltiadau newydd yn y diwydiant, sy’n golygu bod angen yswiriant nwyddau sydd ar daith. Yn yr un modd, gall ddewis ymdrin â digwyddiadau unwaith gydag yswiriant tymor byr yn cyfrif am atebolrwydd cyhoeddus, canslo digwyddiadau a gorchudd offer.

Nodweddion allweddol polisi Diane

  • Yswiriant Cynnwys Busnes
  • Stoc ac Offer
  • Ymyriadau Busnes
  • Atebolrwydd Cyhoeddus hyd at 5m, Atebolrwydd Cyflogwyr a Cynnyrch
  • Yswiriant Diogelu Stoc – Gan ystyried amrywiadau tymhorol
  • Yswiriant Llifogydd – Yswiriant arbenigol wedi’i gynllunio ar gyfer ardaloedd risg uchel
  • Gorchudd nwyddau sydd ar daith
  • Yswiriant Sioe Fasnach – Yn ôl yr angen

Mae’n amlwg, er bod amgylchiadau Dean a Diane efallai wedi ymddangos yn debyg ar y dechrau, ar ôl ymchwilio i’w busnesau unigryw, mae angen polisïau yswiriant gwahanol iawn arnyn nhw. Mae pob busnes yn wahanol, a dyna pam mai anaml y bydd polisïau cyffredin yn bodloni eich gofynion. Yn Gwasanaethau Yswiriant FUW, byddwn yn gweithio gyda chi i drefnu polisi sy’n wirioneddol addas i natur unigryw eich busnes, fel eich bod wedi’ch amddiffyn yn iawn rhag y risgiau a allai effeithio arnoch chi. Am sgwrs heb ymrwymiad, cysylltwch â’ch cangen Gwasanaethau Yswiriant FUW lleol neu ffoniwch ein tîm cyfeillgar ar 0344 800 3110