Neilltuwch amser i adolygu cyn i chi adnewyddu

insurance

Neilltuwch amser i adolygu cyn i chi adnewyddu

gan Dave Bates, Rheolwr Datblygu Busnes Gwasanaethau Yswiriant Ltd

Nod yswiriant – boed yn yswiriant car, cartref, fferm, busnes neu deithio – yw lliniaru risg a’ch amddiffyn chi a’ch asedau rhag unrhyw amgylchiadau annisgwyl. Mae miloedd o ddarparwyr ar y farchnad; y cwestiwn yw: a ydych chi’n derbyn yr yswiriant cywir i chi?

Os yw’ch polisi ar fin cael ei adnewyddu, mae’n talu ffordd (yn llythrennol) i neilltuo ychydig o amser i adolygu’ch yswiriant cyfredol. Hyd yn oed os nad ydych yn sylweddoli hynny, mae eich amgylchiadau’n newid trwy’r amser a gall un newid bach gael effaith enfawr ar gost.

Nid yn unig y gall adolygu eich yswiriant arbed arian i chi, ond bydd hefyd yn eich helpu i benderfynu a ydych chi’n derbyn y lefel gywir o yswiriant ar gyfer eich anghenion. Os byddwch chi’n adnewyddu’ch polisi yn awtomatig heb ail feddwl, efallai nad yw’r lefel o yswiriant yn ddigon, ac felly byddwch chi’n agored i nifer o risgiau posib.

Nid dim ond mewngofnodi ar-lein i gymharu dyfynbrisiau yn unig yw cynnal adolygiad o’ch yswiriant – mae yna nifer o ffactorau eraill y mae’n rhaid i chi eu cofio, fel:

  • Pa mor aml ydych chi’n adolygu’ch yswiriant? Yn ddelfrydol, dylid cynnal adolygiad ychydig fisoedd cyn pob adnewyddiad gan y bydd hyn yn rhoi amser i chi asesu eich anghenion a sicrhau eich bod yn cael y fargen orau.
  • Faint mae eich amgylchiadau wedi newid ers eich adnewyddiad diwethaf? Fel y soniwyd, gallai un newid wneud gwahaniaeth enfawr i gost eich premiwm.

Ar gyfer yswiriant busnes, mae’n werth ystyried y canlynol:

  • A yw eich polisi cyfredol yn cynnwys yswiriant ar gyfer absenoldeb tymor hir gweithwyr o ganlyniad i straen? Straen yw un o’r prif resymau dros weithwyr yn cymryd diwrnodau salwch; os ydych chi’n poeni am yr effaith gall hyn gael ar eich busnes, yna efallai yr hoffech chi lunio polisi sy’n ymwneud ag adferiad gweithwyr.
  • Mae nifer y cwmnïau sy’n profi torri data yn parhau i dyfu. Felly mae’n hanfodol bod eich polisi’n darparu digon o yswiriant ar gyfer ymyrraeth busnes electronig.
  • A ydych chi wedi asesu lefel eich risg a’ch rôl gyhoeddus yn iawn? Bydd gwneud hyn yn caniatáu i chi bennu pa lefel o atebolrwydd cyhoeddus sydd ei angen arnoch.
  • Beth am atebolrwydd ariannol eich busnes? Mae yna lawer o risgiau y gallech chi fod yn agored iddynt na fydd yn cael eu cynnwys mewn polisi safonol, fel llifogydd. Hyd yn oed os ydych chi’n hyderus nad yw eich busnes mewn perygl uniongyrchol, beth am eich cyflenwyr?

Os ydych chi’n adolygu’ch polisi yswiriant cartref, cofiwch y ffactorau hyn:

  • Yn debyg i yswiriant busnes, nid yw llifogydd fel arfer yn cael eu cynnwys ar bolisi yswiriant cartref safonol. Ond, gyda llifogydd yn effeithio ar lawer o rannau o’r DU’r gaeaf hwn a gyda mwy o dywydd gwlyb i ddod, mae’n rhywbeth y dylech chi ystyried amddiffyn eich hun yn ei erbyn.
  • Ydych chi wedi gwneud newidiadau i’ch cartref? Os ydych chi wedi ymestyn y cartref, er enghraifft, efallai na fydd yr estyniad yn cael ei gynnwys yn eich polisi cyfredol.
  • Ydych chi wedi prynu eitemau drud yn ddiweddar? Os felly, bydd angen cynnwys y rhain yn yr yswiriant cynnwys os ydych am ddiogelu nhw.

Yn olaf, os yw eich yswiriant car ar fin gael ei adnewyddu, atebwch y canlynol:

  • Ydych chi wedi newid eich swydd ers yr adnewyddiad diwethaf? Mae galwedigaeth yn effeithio ar bremiymau a dylid hysbysu’ch yswiriwr, ni waeth a ydych chi’n gyrru i’r gwaith ai peidio.
  • A yw’r holl yrwyr wedi’u rhestru ar eich polisi, neu a oes unrhyw yrwyr y mae’n rhaid i chi eu dileu?
  • Ydych chi wedi addasu’ch cerbyd yn ddiweddar?

Bydd neilltuo amser i adolygu’ch polisi yswiriant ychydig fisoedd cyn ei adnewyddu yn helpu i sicrhau eich bod yn cael yr yswiriant cywir am y pris iawn. Cysylltwch â’ch swyddfa FUWIS leol heddiw i gael adolygiad.