telehandler

Aros yn ddiogel a sicrhau Cydymffurfiaeth ar eich fferm

Ystadegau allweddol ynglŷn ag iechyd a diogelwch o fewn y diwydiant amaethyddol

Mae adroddiad yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar gyfer 2020/2021 yn dangos bod 41 o bobl wedi’u lladd o ganlyniad i ffermio a gweithgareddau amaethyddol eraill, sy’n golygu bod amaethyddiaeth yn parhau â’r gyfradd waethaf o anafiadau angheuol i weithwyr (fesul 100,000) o holl brif sectorau diwydiant (mae’r gyfradd gyfartalog flynyddol dros y pum mlynedd diwethaf oddeutu 20 gwaith yn uwch na chyfradd pob diwydiant).

O’r rhai a laddwyd, roedd 9 yn weithwyr, 25 yn hunangyflogedig a 7 yn aelodau o’r cyhoedd. Roedd mwy na hanner y gweithwyr a laddwyd yn 60 oed neu’n hŷn.

 

Deddfwriaeth gyfredol

Mae angen i ffermwyr gydymffurfio â deddfwriaeth gyfredol gan gynnwys Rheoliadau Gweithrediadau Codi ac Offer Codi 1998 (LOLER), Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd 2002 (COSHH) a Rheoliadau Diogelwch Systemau Gwasgedd (PSSR) ymhlith eraill i sicrhau diogelwch eu safle.

Rhaid cynnal archwiliadau rheolaidd i sicrhau diogelwch unrhyw un sy’n dod i’r safle, gan gynnwys gweithwyr, contractwyr ac aelodau’r cyhoedd.

 

Rheoliadau Gweithrediadau ac Offer Codi 1998 (LOLER)

Mae LOLER yn cynnwys archwilio offer fel blaen-lwythwyr tractor, tryciau fforch godi a telehandlers, teclynnau codi yn y gweithdy a theclynnau codi rhaff, craeniau ar beiriannau (ee taenwyr gwrtaith) ac atodion codi. Rhaid i declynnau codi gael eu harchwilio’n drylwyr gan berson cymwys pan gaiff eu defnyddio am y tro cyntaf; yn dilyn gwaith adnewyddu neu atgyweirio mawr; ar ôl ei osod mewn lleoliad newydd; ac ar unrhyw gyfnod lle gellid darganfod bod yna ddirywiad wedi ei achosi gan draul. Dyluniwyd proses archwilio drylwyr LOLER i amddiffyn gweithredwyr a phobl sy’n gweithio gyda theclynnau codi a allai fod mewn perygl os bydd yr offer codi hynny’n methu yn sydyn.

 

Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

Nod rheoliadau COSHH yw dileu cysylltiad â sylweddau peryglus, rheoli’r cysylltiad â monitro iechyd. Mae enghreifftiau o sylweddau peryglus yn cynnwys y rhai a ddefnyddir yn uniongyrchol o fewn gwaith fel gwrteithwyr, a’r rhai sy’n digwydd yn naturiol fel llwch dofednod a nwyon seilo a phyllau slyri.

 

Rheoliadau Diogelwch Systemau Gwasgedd (PSSR)

Rhaid archwilio eitemau sydd dan bwysau neu sy’n defnyddio stêm, fel tancer slyri neu gywasgydd aer, yn drylwyr o dan PSSR.

Nod PSSR yw atal anaf difrifol rhag y perygl o egni wedi’i storio (wasgedd) o ganlyniad i fethiant system wasgedd neu un o’i gydrannau.

 

Rheoliadau a’ch dyletswyddau cyfreithiol

Mae’n ofyniad cyfreithiol bod yr ardystiadau cywir mewn grym.  Os nad yw rhain ar gael ar ôl digwyddiad, yna mi allai arwain at drafferthion difrifol.

Er enghraifft, os nad oes gennych Dystysgrif Arolygu Peirianneg gyfredol ar gyfer eich telehandler/llwythwr pen blaen/offer codi neu ardystiad/hyfforddiant triniwr digonol a’ch bod yn ddigon anffodus i gael damwain ddifrifol, gallai’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch benderfynu eich erlyn. Os bydd hyn yn digwydd, bydd eich cynrychiolaeth gyfreithiol (a gwmpesir gan eich yswiriant treuliau cyfreithiol) yn gyfyngedig o ran sut y gallant eich helpu.

Mae methu ag archwilio o dan LOLER yn dor-cyfraith ynddo’i hun a phe bai damwain yn digwydd, byddai’n cael ei ystyried fel rhan o ymchwiliad a allai arwain at erlyniad.

Gallai methu â chadw at reoliadau arwain at:

  • Camau gorfodi yn cael eu cymryd yn eich erbyn gan arwain at yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn adfer costau. 
  • Erlyniadau yn erbyn naill ai’ch cwmni (yn achos cwmnïau cyfyngedig) a/neu unigolion a allai arwain at ddirywion mawr, gwaharddiad a/neu garchar.
  • Biliau cyfreithiol uchel.

Cofiwch: Yn bwysicach, gallai cadw at reoliadau a chadw’ch ardystiadau yn gyfoes atal damwain, ac arbed bywyd rhywun.

 

Yma i helpu

Yng Ngwasanaethau Yswiriant FUW, rydym yn falch o gefnogi ffermwyr a darparu’r cyngor wedi’i deilwra orau ag y medrwn. Fel rhan o Undeb Amaethwyr Cymru (UAC Cyf), rydym o’r farn mai ein cyfrifoldeb ni yw cadw ein ffermwyr a’n cymunedau mor ddiogel â phosibl, a dyna pam rydym yn argymell y dylai pob busnes fferm gael tystysgrifau arolygu peirianneg a’r hyfforddiant/tystysgrifau trinwyr priodol.

Mae Iechyd a Diogelwch ar y fferm yn bwysig, er mwyn rheoli eich risgiau a’ch cadw chi ac eraill yn ddiogel. Peidiwch â dod yn un o’r ystadegau.

I gael mwy o wybodaeth am reoli’ch risgiau, cysylltwch â’ch Gweithredwr Yswiriant lleol heddiw.