Ydych chi wedi’ch diogelu’n ddigonol os bydd damwain ar eich fferm?

Ydych chi wedi’ch diogelu’n ddigonol os bydd damwain ar eich fferm?

Gyda’r gaeaf wedi cyrraedd, y dyddiau’n byrhau a’r tywydd yn oer a gwlyb mae’r risg o ddamwain ar y fferm yn cynyddu. Dan yr amgylchiadau mae’n werth atgoffa ein cwsmeriaid ac aelodau unwaith yn rhagor fod amaethyddiaeth, o ystyried yr ystadegau, yn un o’r diwydiannau mwyaf peryglus yn y DU. Yn anffodus mae’r ystadegau am farwolaethau yn y gwaith yn profi hynny.

Yn ôl ffigurau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, cofnowyd 3 marwolaeth ar fferm yng Nghymru yn ystod 2021/2022, gyda chyfanswm o 25 o bobl wedi’u lladd ledled Prydain. Er na fydd cael yr yswiriant cywir yn ei le yn gallu atal damweiniau mae’n ystyriaeth hanfodol os am ddiogelu eich busnes petai’r gwaethaf yn digwydd.

Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp UAC, Guto Bebb: “Yn naturiol y nod bob amser yw gweithredu arferion da a rheoli risg bob amser er mwyn lleihau’r damweiniau sy’n digwydd ar ffermydd yn y lle cyntaf.

“Fodd bynnag, y gwir anghyfforddus yw bod damweiniau yn digwydd, ac mae’n bwysig i fusnesau ffermio sicrhau eu bod yn gallu dangos tystiolaeth o’u harferion rheoli risg a chael cefnogaeth polisi rheoli atebolrwydd fel Rural Protect rhag ofn y bydd y gwaethaf yn digwydd.”

Yn dechnegol, polisi yswiriant yw Rural Protect sy’n rheoli atebolrwydd gan ddiogelu pob unigolyn yn y busnes gan gwmpasu Atebolrwydd Personol, Atebolrwydd Arferion Cyflogaeth, Atebolrwydd Cyfreithiol Cwmni a Threuliau Cyfreithiol Teuluol. Mae Rural Protect yn darparu offer rhagweithiol i helpu atal sefyllfaoedd annymunol, ond pe bai’r gwaethaf yn digwydd, mae hefyd yn rhoi mynediad i chi at rradar, sef cwmni sy’n arbenigo mewn cyfraith fasnachol arbenigol a ariennir gan y polisi.

Bydd rradar yn gweithredu ar eich rhan mewn llu o sefyllfaoedd megis mynychu cyfweliad gyda’r heddlu, cynorthwyo gyda hysbysu rheoleiddwyr o ddigwyddiad, neu amddiffyn rhag sylw negyddol yn y wasg a’r cyfryngau cymdeithasol.

Mae amddiffyniad rradar eisoes wedi arbed nifer o fusnesau rhag costau hawliadau y byddent fel arall wedi bod yn atebol amdanynt onibai am warchodaeth Rural Protect.

Dywedodd Uwch Weithredwr Yswiriant FUWIS, sef Dafydd P Jones: “Mae’n dristwch i mi, er gwaethaf ymdrechion i amlygu’r peryglon ar ffermydd dro ar ôl tro, nad ydym wedi gweld gostyngiad clir yn y ffigurau hyn hyd yma. Ac wrth gwrs, does neb yn cofnodi y damweiniau fu bron â digwydd ac anafiadau sy’n newid bywydau.

“Mae natur gwatih amaethyddol yn golygu fod ffermwyr a gweithwyr fferm yn gweithio ar ben eu hunain, weithiau mewn tywydd heriol a sefyllfaoedd anodd. Mae’r holl risgiau sydd ar ffermydd yn gyfarwydd ac yn hawdd eu rheoli, ond yn rhy aml o lawer mae ffermwyr a gweithwyr fferm yn rhoi eu hunain mewn sefyllfaoedd lle gall un llithriad arwain at ganlyniadau sy’n newid bywydau neu hyd yn oed farwolaeth ar y fferm.”

Ychwanegodd Mr Bebb: “Mae yna ormod o bobl yn marw ar ffermydd ar draws y DU, ac rwy’n annog y diwydiant i wynebu’r her yn agored. Mae’n rhaid i’ch diogelwch chi a’ch teulu fod yn flaenoriaeth, ond os bydd y gwaethaf yn digwydd, mae’n holl bwysig fod ganddoch yr yswiriant cywir.

“Mae ein timau hawliadau yn gweld y canlyniadau o ddamweiniau ar ffermydd yn ddyddiol ac rydym yn gweld eu heffaith ar unigolion, teuluoedd a busnesau. Trwy lwc mae’n deg dweud ein bod, gan amlaf, yn gallu ymateb yn gadarnhaol a bod o gymorth i’n cwsmeriaid. Fodd bynnag, mae yna adegau pan fydd problemau’n codi oherwydd nad oes yswiriant yn ei le neu fod yr yswiriant sydd mewn lle yn annigonol i dalu am y golled. Fel busnes yr ydym am osgoi sefyllfa o’r fath a hynny’n benodol er mwyn ein ffermwyr.”