Gwasanaethau Yswiriant FUW yn croesawu Amanda Williams fel Gweithredwr Cyfrif dros Ben Llŷn

Gwasanaethau Yswiriant FUW yn croesawu Amanda Williams fel Gweithredwr Cyfrif dros Ben Llŷn

Mae FUW Insurance Services Ltd, brocer yswiriant amaethyddol mwyaf Cymru, yn falch o gyhoeddi penodiad Amanda Williams yn Weithredwr Cyfrif. Fe fydd Amanda yn gwasanaethu cwsmeriaid ar draws Pen Llŷn.

Daw Amanda â phrofiad helaeth o fewn y maes yswiriant gan iddi weithio’n flaenorol gyda’r NFU Mutual ar draws Llŷn ac Eifionydd. Yn ddiweddarach fe sefydlodd ei broceriaeth ei hun yn yr un ardal gan gryfhau ei harbenigedd a’i dealltwriaeth o’r farchnad yswiriant amaethyddol a masnachol.

Yn byw ym mhentref Mynytho, mae gan Amanda wreiddiau lleol cadarn ynghyd â phrofiad proffesiynol sylweddol, cyfuniad sy’n ei gwneud yn addas iawn i gefnogi ein cwsmeriaid ar draws y rhanbarth.

Yn ei swydd newydd fe fydd Amanda, maes o law, yn cymryd cyfrifoldeb dros bortffolio Dylan Evans, Gweithredwr Cyfrif Gwasanaethau Yswiriant ym Mhen Llŷn. Fe fydd Naomi Owen yn parhau i weithio gyda Dylan wrth iddi hithau dderbyn cyfrifoldeb dros bortffolio Dylan yn Eifionydd. Ein bwriad gyda’r newidiadau hyn ydi sicrhau parhad a chysondeb ein gwasanaeth i bob cwsmer.

Wrth drafod ei phenodiad dywedodd Amanda Williams: “Rwy’n falch iawn o ymuno gyda Gwasanaethau Yswiriant FUW ac o gael y cyfle unwaith eto i wasanaethu ffermydd a busnesau ar draws Penrhyn Llŷn.

Wedi gweithio yn yr ardal am flynyddoedd lawer rwy’n deall anghenion unigryw ffermwyr a busnesau lleol ac yn angerddol dros ddarparu gwasanaeth personol a dibynadwy. Edrychaf ymlaen at adeiladu cysylltiadau cryf gyda chwsmeriaid presennol a newydd a parhau y gwaith rhagorol sydd wedi ei wneud gan Dylan yn yr ardal.”

Wrth drafod y penodiad dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Yswiriant FUW, Karen Royles:

“Rydym yn falch iawn o groesawu Amanda i Gwasanaethau Yswiriant FUW. Mae ei phrofiad helaeth, ei chysylltiadau lleol cryf a’i dealltwriaeth drylwyr o yswiriant amaethyddol a masnachol yn ei gwneud yn ychwanegiad rhagorol i’r tîm. Mae penodiad Amanda yn sicrhau ein bod yn cynnal ein gwasanaeth i’n cwsmeriaid a’n haelodau ym Mhen Llŷn ac fe fydd Amanda yn chwarae rhan allweddol wrth adeiladu ar y sylfeini cryf sydd eisoes yn eu lle.”

I drafod eich anghenion yswiriant, cysylltwch yn uniongyrchol ag Amanda Williams ar 07702 954558 neu amanda.williams@fuw.org.uk.