Yswirio’ch Nadolig

Christmas Nadolig

Yswirio’ch Nadolig

gan Jackie Burrows, Rheolwr Datblygu Busnes, Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf

Mae gadael bocsys gwag o anrhegion drud allan ar y stryd a gadael goleuadau arno drwy’r amser yn ddwy risg nad ydych yn debygol o ddod ar eu traws ar unrhyw adeg arall o’r flwyddyn.

Felly cyn i chi fynd ati i wario a chodi gwydraid i ddymuno iechyd da, sicrhewch fod eich yswiriant yn ddigon i ddiogelu eich lles ariannol y Nadolig hwn.

Tanau tŷ

Mae tanau mewn tai yn risg fawr ym mis Rhagfyr, felly gwnewch yn siŵr bod eich symiau sydd wedi’u hyswirio yn gyfredol. Dylai yswiriant adeiladau dalu cost ailadeiladu eich cartref yn gyfan gwbl, gan gynnwys costau cynllunio a phensaernïaeth.

Sicrhewch fod y ffigur hwn yn gyfredol ac nad yw’n seiliedig ar werth marchnad eich cartref. Os nad yw’n ddigonol, efallai y cewch lawer llai pe bai hawliad yn cael ei wneud, hyd yn oed os mae un ystafell yn unig sy’n cael ei ddifrodi gan dân, gan y bydd eich eiddo yn cael ei dan-yswirio yn ei gyfanrwydd.

Cynnwys Drud

Mae rhai polisïau yswiriant cartref yn cynnig cynnydd cynnwys awtomatig o gwmpas y Nadolig sy’n cymryd siopa a’r anrhegion ar ôl y Nadolig i ystyriaeth. Os nad yw  hwn ar eich yswiriant, a’ch bod yn disgwyl cyfnewid rhodd foethus neu os oes gyda chi deulu mawr, gallai fod yn werth edrych i mewn i ychwanegu hwn er mwyn diogelu’ch anrhegion a’ch eiddo newydd

Pan fydd gyda chi funud sbâr ar ôl i’r dathliadau orffen, ail-gyfrifwch i weld faint y byddai’n ei gostio i ailosod eich holl eiddo i weld a ydych chi’n dal i fod o fewn terfynau cyfforddus eich polisi yswiriant.

Lladrata

Os yw lleidr wedi cael mynediad hawdd at nwyddau, er enghraifft, set offer newydd mewn sied heb ei chloi, neu ddrws ar agor, mae’n annhebygol y cewch chi yswiriant am rywbeth sydd wedi’i ddwyn. Cymerwch ofal arbennig i ddiogelu eich eiddo, oherwydd gall mis Rhagfyr, yn benodol, gynyddu cyfleoedd troseddwyr sy’n manteisio ar nosweithiau hirach ac anrhegion drud.

Os nad ydych yn glir am unrhyw beth ar eich polisi yswiriant, cysylltwch â’ch Gweithredwr Cyfrif Yswiriant yn eich swyddfa Yswiriant FUW leol i roi rhywfaint o eglurder i chi.