Newidiadau i dîm FUWIS Sir Faesyfed

Newidiadau i dîm FUWIS Sir Faesyfed

gan Jackie Burrows, Rheolwr Datblygu Busnes, Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf (FUWIS)

Ar ôl ymuno â ni yn 2009 ac yn dilyn 12 mlynedd lwyddiannus fel Gweithredwr Yswiriant Sir Faesyfed sy’n gweithio o’n cangen yn Llanfair-ym-Muallt, mae Dave Powell yn ymddeol o Wasanaethau Yswiriant FUW (FUWIS).

Cafodd Dave ei eni a’i fagu yn Sir Faesyfed a chafodd ei gyflogi ym myd bancio am 34 mlynedd cyn ymuno â FUW. Mae wedi ffitio mewn yn berffaith gyda FUWIS yn yr ardal gan roi gwasanaeth i gleientiaid presennol a newydd. Mae’n deg dweud bod llawer o’i gleientiaid bellach yn ffrindiau da gydag ychydig ohonyn nhw hefyd yn ffrindiau cyn iddyn nhw ddod yn gleientiaid! Fel busnes rydym yn dymuno ymddeoliad hapus iawn i Dave yn y dyfodol.

Bydd Gweinyddwr Yswiriant Dave, Siân Powell, yn parhau i ddarparu cefnogaeth weinyddol werthfawr wrth i ni groesawu a llongyfarch ein Gweithredwr Yswiriant newydd, Sophie Rees, ar ei phenodiad i gymryd lle Dave.

Ymunodd Sophie â Gwasanaethau Yswiriant FUW yn ôl yn 2015 fel Gweinyddwr Yswiriant, ac yn fwy diweddar penodwyd hi’n Weinyddwr Yswiriant Rhanbarthol yn ychwanegol at ei gwaith fel Gweinyddwr Yswiriant dros dro.

Mae Sophie yn byw yn lleol, yn dod o gefndir ffermio ac yn edrych ymlaen at weithio gyda chleientiaid yn Sir Faesyfed, y rhai presennol a’r rhai newydd. Gellir cysylltu â Sophie Rees ar: ffôn symudol: 07593 44662 / E-bost: sophie.rees@fuw.org.uk

Ar gyfer eich holl anghenion yswiriant amaethyddol, busnes a masnachol yn ogystal ag yswiriant modur a chartref, cysylltwch â swyddfa FUWIS Llanfair-ym-Muallt ar 01982 553406.