Allwch chi fforddio colli £10,500 o’ch elw?

risk

Allwch chi fforddio colli £10,500 o’ch elw?

Mae mwy a mwy o ffermwyr a busnesau gwledig yn wynebu heriau a’r risg o gyfreitha am nifer o resymau ac mewn amrywiol amgylchiadau. Gall risg o gyfreitha dod o anghydfodau cytundeb ac adfer dyled, ymchwiliadau rheoliadol neu o dwyll a ffugiad. Efallai y byddwch hyd yn oed yn mynd ar drywydd trydydd parti, a all gymryd llawer o amser ac yn llafurus.  Mae’r yswiriant cywir yn dileu cost a thynnu sylw cyfreitha oddi wrth fusnes ac yn eich helpu i gadw’ch elw.

Yng Ngwasanaethau Yswiriant FUW, gyda’n Gweinyddwyr Cyfrif lleol ac ymroddedig, gallwn eich helpu i gael yswiriant ar gyfer risgiau rheoliadol a chyfreithiol yn ogystal â dod o hyd i gyngor proffesiynol i leihau’r risgiau hynny yn y lle cyntaf.

Y gwir amdani yw y gall hyd yn oed un digwyddiad beryglu’ch busnes a’ch bywoliaeth. Gallwn sicrhau’r polisi cywir i gwmpasu pob math o weithredoedd esgeulus.

Gall ein darparwyr helpu i amddiffyn chi, cyfarwyddwyr, partneriaid, perchnogion a gweithwyr gyda;

  • Costau cyfreithiol, dyfarniadau a setliadau
  • Cynrychiolaeth gyfreithiol ac ymchwiliadau swyddogol a gwrandawiadau llys

Gallwn sicrhau’r un amddiffyniad i unig fasnachwyr, partneriaethau a chwmnïau.

Gyda pholisi wedi’i ddewis yn dda, byddwch hefyd yn cael mynediad at gyngor ar faterion cyfreithiol a rheoliadol, ar draws ystod o bynciau gan gynnwys contractau masnachol, Adnoddau Dynol a chyfraith cyflogaeth, a seiberdroseddu.

Mae’n fwy a mwy cyffredin i fusnes gael ei hun ar ochr anghywir o ddeddfwriaeth cyflogaeth. Yn fwyaf cyffredin mae hyn ar gyfer honiadau o

  • Derfyniad anghywir
  • Gwahaniaethu
  • Aflonyddu rhywiol
  • Diswyddo’n annheg

Cynlluniwyd ein darpariaeth bwrpasol i gynorthwyo gyda rhedeg busnesau gwledig o ddydd i ddydd. Mae yno i’ch cefnogi pe bai angen i chi amddiffyn neu gymryd camau cyfreithiol a bydd yn eich amddiffyn rhag costau holl ymchwilio ac erlyn rheoleiddwyr y DU.

I fusnesau sydd â throsiant llai na £50,000, gallai polisi symlach fod ar eich cyfer chi.  Bydd polisi wedi’i leihau, sy’n dileu yswiriant diangen nad oes ei angen weithiau ar fusnesau llai, yn amddiffyn chi a’ch busnes.

Mae’r yswiriant yn cychwyn o ychydig dros £400 (gan gynnwys Treth Premiwm Yswiriant a ffioedd) ac yn 2020 y gost hawlio ar gyfartaledd oedd £10,500. Dyna faint o gost mae unigolion a busnesau wedi arbed gyda’r mathau o bolisi y gallwn eu sicrhau.

Ymhlith yr achosion nodweddiadol y mae’r mathau hyn o bolisi wedi’u cefnogi mae;

  • Ymchwilio i Ddamweiniau – cyfrif y gost
  • Honiadau Cwynion Cyflogaeth ac osgoi tribiwnlysoedd drud
  • Delio â Sefydliadau Allanol a sut i drafod o sefyllfa gref
  • Cynnal Trafodaethau Rhent Gwledig a’r hyn sydd angen i chi ei wybod
  • Rheoliadau Cludiant Da Byw a sut i gydymffurfio â nhw
  • Anfonebau dadleuol a sut i ddelio â gofynion nad ydych yn cytuno â nhw

Lleihewch y risg o gyfreitha gydag yswiriant sydd wedi’i gynllunio ar gyfer busnesau gwledig.

Amddiffynnwch eich hunan. Gofynnwch i’ch swyddfa leol am bris heddiw.