tractor

Pa mor ddiogel yw eich tractor?

Gall digwyddiadau amaethyddol fod yn brin, yn enwedig o’u cymharu â digwyddiadau yn ymwneud a beiciau modur a cheir, ond pan fyddant yn digwydd, mae’r canlyniadau’n ddifrifol – ac weithiau’n angheuol. Yn 2009, cafodd gweithiwr fferm 26 oed ei lladd pan drodd y tractor roedd hi’n ei yrru drosodd mewn cae. Ar ôl cynnal ymchwiliad, darganfuwyd nad oedd gan y tractor unrhyw wregys diogelwch na diogelwch rhag troi drosodd. Cafodd ei chyflogwr ddirwy o £80,000; er na allai unrhyw swm o arian wneud iawn am golli bywyd. 

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae tractorau wedi datblygu o ran gallu a chyflymder. Mae teiars mwy yn caniatáu gwell rheolaeth ar dir anodd a gall gosod bariau rholio helpu i atal anafiadau difrifol a marwolaethau. Os ydych chi’n gweithredu tractor, o dan Reoliad Gweithle (Iechyd, Diogelwch a Lles) 1992 a Rheoliadau Darparu a Defnyddio Offer Gwaith 1998 (PUWER), rhaid i’ch cerbyd allu symud o gwmpas mewn modd diogel, cael ei gynnal a’i gadw’n rheolaidd, a bod unrhyw un sy’n gweithredu’r cerbyd yn derbyn hyfforddiant digonol.

Nid yw damweiniau’n digwydd, maent yn cael eu hachosi. Bydd cadw’r canlynol mewn cof yn helpu i leihau risg ac atal anafiadau i chi a’ch gweithwyr:

  • Dylid cynnal gwiriadau diogelwch ar eich tractor bob bore cyn ei ddefnyddio. Crëwch restr wirio, gan ddefnyddio’r llawlyfr fel canllaw, gan sicrhau eich bod yn cynnwys y canlynol: y system frecio (gan gynnwys disgiau a phadiau), lefelau olew a hylif, lefelau oerydd, ffanbelt a phwysau teiars.
  • Mae’n hanfodol bod gweithwyr yn derbyn hyfforddiant digonol ar sut i weithredu’r tractor yn ddiogel. Ydyn nhw’n feddygol ffit i’w weithredu?
  • Os nad ydynt wedi’u gosod yn safonol, gwnewch yn siŵr bod gennych wregys diogelwch a strwythur amddiffyn rhag rholio drosodd (ROPS) wedi’u gosod yng nghab y gyrrwr. Dylid gwirio cyflwr y ROPS yn rheolaidd; gall gosod bolltau yn anghywir a/neu folltau rhydlyd achosi i’r strwythur fethu os bydd yn troi drosodd.
  • Os defnyddir trelar, rhaid i chi wirio ei system frecio a sicrhau nad yw llwythi’n yn cael ei orlwytho.
  • Yn gyfreithiol, dim ond pan fydd ganddynt sedd ddynodedig y caniateir i deithwyr fod yng nghab y gyrrwr.
  • Rhaid gwisgo dillad priodol bob amser wrth yrru’r tractor. Dylai dillad ffitio’n iawn i’w hatal rhag cael eu dal ar rannau symudol; dylid gwisgo esgidiau gwaith cadarn gyda gafael da i weithio’r pedalau; dylid clymu gwallt hir yn ôl; a dylid tynnu unrhyw emwaith.
  • Mae yn erbyn y gyfraith i gario plant o dan 13 oed ar dractor, ni waeth a oes sedd teithiwr ai peidio.
  • Wrth yrru’r tractor, sicrhewch nad oes unrhyw wrthrychau rhydd yn y cab gan y gallai’r rhain fod yn beryglus pe bai’n troi drosodd.
  • Mae Carbon monocsid yn lladd – peidiwch byth â dechrau injan y tractor mewn sied neu garej oni bai bod yr holl ddrysau ar agor a bod yr ardal wedi’i hawyru’n dda.
  • Os defnyddir system fachu, sicrhewch mai dyna’r un cywir ar gyfer eich tractor a gwiriwch yr offer yn rheolaidd, gan gynnwys sgidiau, jaciau a chynhalwyr eraill.
  • Dylid defnyddio’r yr ‘ataliwr diogelwch’ bob tro y daw’r tractor i stop. Mae hyn yn cynnwys gosod y brêc llaw, gosod rheolyddion yn niwtral, diffodd yr injan a thynnu’r allwedd allan.
  • Byddwch yn arbennig o ofalus wrth wneud gwaith ar lethrau. Defnyddiwch olwynion llydan os yn bosibl, peidiwch byth â throi i lawr llethr, disgynwch i lawr y llethr gyda’r graddiant graddol bob amser. Mewn achos o droi drosodd, dylai’r gyrrwr aros yn ei sedd a rhaid iddo beidio â cheisio neidio allan o’r cab.

Mae mwyafrif y damweiniau yn cael eu hachosi gan esgeulustod defnyddwyr. Bydd cynnal gwiriadau rheolaidd ar eich tractor a sicrhau ei fod yn cael ei weithredu mewn modd priodol yn helpu i atal damweiniau a’ch cadw chi a’ch gweithwyr yn ddiogel.

I gael mwy o wybodaeth am reoli’ch risgiau, cysylltwch â’ch Gweithredwr Yswiriant lleol heddiw.