Staff newydd yn ymuno â’r tîm yswiriant

Hazel Eldridge, Rheolwr Gweinyddol

Hazel_FUWISMae Hazel wedi bod gyda UAC ers mis Rhagfyr 2016, gan ddechrau fel Gweinyddwr Cyfrifon yn swyddfa Dolgellau, rôl a gyflawnodd tan ddechrau 2021 pan gafodd ei dyrchafu’n  Drefnydd Cyfrif Arweiniol Rhanbarthol yn gyfrifol am swyddfeydd Rhuthun, Llanrwst a’r Drenewydd.

Ar ddiwedd 2021 roedd yna swydd wag ar gyfer Rheolwr Gweinyddol FUWIS a bu Hazel yn llwyddiannus yn ei chais a dechreuodd yn ei swydd newydd ym mis Ionawr 2022, a arweiniodd at benodi Gweinyddwyr Cyfrifon newydd yn swyddfa Dolgellau.

 

Linda Evans, Gweinyddwr Cyfrif

Ganwyd Linda yn Aberystwyth a mynychodd Ysgol Gyfun Penweddig.

Wedi gweithio i Gyngor Sir Ceredigion am nifer o flynyddoedd, symudodd Linda i fyw yn Rushden, Swydd Northampton am 18 mlynedd lle bu’n gweithio fel Rheolydd Credyd i gwmni teiars amlwladol.

Mae hi bellach wedi dychwelyd i fyw yn Borth, Ceredigion a dechreuodd ei rôl fel Gweinyddwr Cyfrif ym mis Tachwedd 2021. Mae gan Linda ferch Tara ac ŵyr Stuart.

 

Emily Jones, Gweinyddwr Cyfrif

Daw Emily Jones o Garnwen, Penuwch, ger Tregaron, a dechreuodd ei swydd fel Gweinyddwr Cyfrif ym mis Rhagfyr 2021.

Mae’n cadw buches pedigri o wartheg Byrgorn biff a dwy ddiadell pedigri o Cheviots – math North Country a Park.

Mae gan Emily ddiddordeb mawr yn iechyd a lles ei hanifeiliaid, mae hi wedi ymuno â Chynllun Iechyd Gwartheg Premiwm a bellach mae ganddi Statws Iechyd Uchel gyda’r gwartheg, ac mae hi wedi ymuno â’r Cynllun Hyrddod Mynydd ac yn cofnodi ei Cheviots gyda HCC a Signet.

Mae Emily wedi bod yn ffermio ar hyd ei hoes gyda’i mam a’i thad, ac wedi cael ei holl wybodaeth am y fferm gan ei rhieni.

Mae Emily hefyd yn gwirfoddoli gyda Sefydliad DPJ gan fod yr elusen yn agos iawn at ei chalon.