A oes angen yswiriant atebolrwydd ar eich gwartheg?

Mae yna lawer o gaeau gyda mynediad anghyfyngedig, fel llwybrau tramwy cyhoeddus neu breifat, ac yn aml gellir gweld gwartheg yn pori gerllaw. Er bod pobl fel arfer yn gallu cerdded heibio buches o wartheg heb unrhyw broblem, gall gwartheg fod yn anwadal ac ni fyddai llawer yn gwybod sut i ymateb pe bai’r fuches yn dechrau rhuthro tuag atynt.

Yn drychinebus, mae marwolaethau sy’n gysylltiedig â gwartheg yn digwydd weithiau, tra bod llawer o rai eraill wedi dioddef anafiadau gan gynnwys torri asgwrn oherwydd gweithredoedd megis gwartheg yn cicio, penio a sathru. Mae ffermwyr a gweithwyr fferm yn arbennig mewn perygl oherwydd eu bod yn dod i gysylltiad cyson â’u buches ac maent yn cyfrif am y rhan fwyaf o’r marwolaethau, ond mae nifer o gerddwyr hefyd wedi’u hanafu a’u lladd mewn ymosodiadau yn ymwneud â gwartheg.

Ai chi sy’n gyfrifol os bydd eich gwartheg yn ymosod ar rywun?

Mae Deddf Anifeiliaid 1971 yn datgan bod perchnogion yn ‘hollol atebol’ am y rhan fwyaf o anafiadau a achosir gan eu hanifeiliaid sy’n golygu, yn y rhan fwyaf o achosion, y byddwch yn atebol os bydd eich buches yn ymosod ar aelod o’r cyhoedd. Yn 2016, gorchmynnwyd ffermwr gan y llys i dalu £30,000 mewn costau llys ar ôl i gerddwr gael ei ladd gan ei fuches ar ôl anwybyddu nifer o rybuddion i’w cadw dan reolaeth. Roedd ei fuches wedi ymosod ar gerddwyr bedair gwaith cyn y farwolaeth, gydag un ymosodiad yn arwain at dorri gwddf.

Cafodd y ffermwr ddedfryd o 12 mis o garchar ar ben ei ddirwy. Talodd ei yswiriant yr hyn a dybiwyd i fod yn swm chwe ffigwr i bartner yr ymadawedig ac aeth £200,000 i’r pedwar a anafwyd yn flaenorol gan fuches y ffermwr.

Amddiffyniad

Wrth wneud sylwadau ar yr achos, awgrymodd Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch y bydd gan y rhan fwyaf o ffermwyr grwpiau eraill o stoc sy’n gallu pori caeau sy’n cynnwys hawliau tramwy, fel y gallant leihau’r risg o ddigwyddiadau drwy “roi defaid ynddynt”, neu gallent “gymryd cnydau porthiant ohonyn nhw”, tra “gellir rhoi gwartheg a lloi mewn caeau heb hawliau tramwy, neu eu cadw i ffwrdd o gerddwyr”.

Mae’r diffyg dealltwriaeth y mae hyn yn ei ddangos ynglŷn â nifer yr hawliau tramwy ar ffermydd a realiti’r hyn sy’n ymarferol o ran rheoli ffermydd wedi gwylltio ffermwyr, ac mae UAC wedi gwahodd cynrychiolydd o’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i gyfarfod o’i phwyllgorau da byw a ffermio mynydd i esbonio realiti ffermio bob dydd.

Fodd bynnag, cynghorir ffermwyr i leihau’r risgiau i’r cyhoedd cyn lleied â phosibl trwy ddewis yn ofalus ble y gellir cadw stoc.

Er bod 70% o farwolaethau a achosir gan wartheg o ganlyniad i deirw, a buchod yn gwarchod lloi newydd-anedig, mae’n ymddangos bod yr ystadegyn hwn yn cynnwys ffermwyr a’u gweithwyr sy’n cyfrif am y mwyafrif o’r rhai sydd mewn perygl; pan ddaw i aelodau’r cyhoedd, gall stoc ifanc hefyd fod yn berygl, yn enwedig i gerddwyr gyda chŵn.

Felly a oes angen yswiriant atebolrwydd ar gyfer eich buches?

Os ydych chi’n berchen ar wartheg sydd mewn caeau cyhoeddus, bydd bob amser ryw elfen o risg i’r cyhoedd, felly mae’n syniad da sicrhau bod gennych yswiriant atebolrwydd cyhoeddus. Mae’n well edrych dros y polisi yswiriant presennol i weld a oes gennych yswiriant.

I sicrhau bod gennych yswiriant neu i drefnu yswiriant ychwanegol, ffoniwch eich Gweithredwr Cyfrif Gwasanaethau Yswiriant UAC lleol a siaradwch ag un o’n tîm.