Llwyddiant ariannol CPD Aberriw diolch i Weithredwr Yswiriant

Derbyniodd Danielle Walker, Gweithredwr Yswiriant Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf. yn Sir Drefaldwyn e-bost gan Allianz yn ei hysbysu o’r cyfle i enwebu clwb chwaraeon ar gyfer Cronfa Chwaraeon Allianz.

Roedd Danielle yn meddwl y byddai’n gyfle gwych i enwebu ei chlwb lleol, CPD Aberriw, gan fod hi’n hyfforddi gyda’r tîm merched, ac mae ei phlant yn hyfforddi gyda Thîm Iau Clwb Pêl-droed Aberriw. Anfonodd e-bost at yr Hyfforddwr Paul Inns gyda’r ddolen iddo ei gwblhau a dywedodd ei bod am eu henwebu am grant rhwng £500 a £3,000.

Dywedodd Danielle: “Mae CPD Aberriw yn glwb cynhwysol gwych sy’n darparu cyfleoedd i lawer o bobl ifanc yn yr ardaloedd cyfagos. Ar hyn o bryd mae ganddyn nhw 296 o chwaraewyr, gyda 101 yn ferched sy’n anhygoel i glwb mor wledig ag rydw i’n falch iawn eu bod wedi llwyddo i dderbyn grant.

“Gwnaethpwyd y cais ar Fawrth 26 a derbyniais e-bost gan Paul ar 7 Mehefin yn cadarnhau eu bod wedi bod yn llwyddiannus ac yn derbyn grant o £3,000!”

Dywedodd y Prif Hyfforddwr Paul Inns: “Rydym mor ddiolchgar i Wasanaethau Yswiriant FUW Cyf. am ein galluogi i wneud cais am y grant gydag Allianz.

“Mae £3,000 yn swm enfawr i glwb fel ein un ni a bydd yn ein galluogi i brynu cit newydd ar gyfer ein tîm merched – sydd hyd yma wedi gorfod benthyg cit y dynion, yn ogystal â phrynu cit newydd ar gyfer ein tîm merched newydd o dan 10, ac offer cyffredinol er mwyn galluogi Clwb Iau Aberriw i barhau i ddatblygu gêm y merched yn yr ardal.”