Yn cyflwyno ein Gweithredwr Yswiriant newydd ar gyfer Sir Ddinbych – Lowri Williams

Yn cyflwyno ein Gweithredwr Yswiriant newydd ar gyfer Sir Ddinbych – Lowri Williams

Mae Gwasanaethau Yswiriant UAC Cyf yn falch o gyhoeddi bod Lowri Williams yn cymryd yr awenau fel Gweithredwr Yswiriant Sir Ddinbych ym mis Mawrth. Mae Lowri wedi gweithio i Wasanaethau Yswiriant UAC fel Cydlynydd Cyfrif am bedair blynedd ac yna fel Uwch Gydlynydd Cyfrif.

Dywedodd Lowri:

“Rwy’n dod o gefndir ffermio ac wedi byw ar gyrion Ruthun gydol fy oes, ac mae fy rhieni’n parhau i gadw gwartheg bîff. Mae fy ngŵr a minnau hefyd yn cadw ychydig o ddefaid a gwartheg ac yn brysur gyda’r wyna ar hyn o bryd.

“Mae gen i berthynas dda gyda llawer o gwsmeriaid yn barod ac rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agosach gyda chleientiaid Yswiriant UAC. Rwy’n edrych ymlaen at ofalu ar ôl holl gwsmeriaid Sir Ddinbych a hefyd ennill cleientiaid newydd.

“Os hoffech chi neu rywun chi’n nabod cael dyfynbris yswiriant, cysylltwch â ni. Edrychaf ymlaen at glywed oddi wrthych.”

Ffôn: 01824 702912 / 07706 333870

e-bost – lowri.williams@fuw.org.uk